Skip to the content

Gyda chymaint i’w weld a’i wneud yn Ne Cymru, mae'n werth cynllunio o flaen llaw fel na fyddwch yn colli unrhyw beth. Gallwn ddarparu cyngor diduedd am ddim a gallwn argymell mannau i aros, pethau i'w gweld a mannau i ymweld â nhw. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am ganllawiau teithio, teithio i'r ardal, yn ogystal â chreu amserlenni enghreifftiol sydd wedi'u teilwra yn ôl gofynion eich cleientiaid.

Er mwyn rhoi syniad i chi o'r hyn sydd gennym, rydym wedi casglu rhai syniadau ar eich cyfer.

Teithiau Thematig

Blaenafon i Gasnewydd

Diwydiant cynnar, teithiau 100m o dan y ddaear, trenau stêm, Siartwyr, plasty, Rhufeiniaid a phont unigryw.

Merthyr i Gaerdydd

Roedd Cwm Taf sy’n rhedeg o Ferthyr Tudful i Gaerdydd wrth galon y Chwyldro Diwydiannol – mae cymaint o straeon i’w harchwilio – dyma ychydig o syniadau.

Gerddi

Coed anferth, gerddi preifat unigryw ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – mae gan Dde Cymru gasgliad gwych o erddi i chi ymweld â nhw.

Dros 30 o Gestyll i'w Harchwilio

Strwythurau amddiffynnol, adfeilion mawreddog a hanesion hynod ddiddorol. Mae’r cestyll adnabyddus a’r olion cudd ar draws De Cymru yn lleoedd gwych i’w harchwilio.

Teithiau Bwydydd

Ar draws De Cymru mae gennym gynhyrchwyr bwyd a diod cyffrous a bywiog sy’n croesawu grwpiau i weld sut maent yn gweithio ac i flasu eu cynnyrch hardd. Ynghyd â marchnadoedd, gwyliau bwyd ac ystod eang o gaffis a bwytai.

Archwilio'r Rhanbarth

Un Diwrnod ym Mhen-y-bont ar Ogwr

P’un a ydych yn mwynhau’r awyr agored, gwneud ychydig bach o siopa neu brofi ychydig o foethusrwydd, mae'r amserlen teithio un diwrnod hon yn cwmpasu popeth.

Un Diwrnod yng Nghaerdydd

Cymerwch daith o amgylch Caerdydd a phrofwch y gorau o blith yr hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig o'r amgueddfeydd, y castell a lleoliadau perfformio eiconig.

Un Diwrnod ym Mlaenau Gwent

Mewn ardal sy'n falch o'i threftadaeth, gallwch weld cerflun enfawr y Gwarcheidwad, ac ymweld â pharcdir prydferth ac adeiladau hanesyddol cyn mynd i siopa.

Un Diwrnod yng Nghasnewydd

Ymwelwch â phontydd dyfeisgar, olion Rhufeinig a chartrefi urddasol, a mwynhewch werddon o lonyddwch a gwarchodfa natur heddychlon.

Un diwrnod yng Nghaerffili

Ewch ar daith o amgylch Caerffili. Castell enfawr, tŷ ag ysbryd a chofeb ingol. Gorffennwch y diwrnod gyda hufen iâ lleol blasus o fewn lleoliad cefn gwlad prydferth.

Un Diwrnod ym Merthyr Tudful

Cyfle i fwynhau taith stêm hamddenol ar hyd golygfeydd prydferth, ymweld â chastell syfrdanol o'r 19eg ganrif neu ymgolli yn yr awyr agored.

Un Diwrnod yn Nhorfaen

Mentrwch 300 troedfedd o dan y ddaear, edrychwch ar olion ffwrneisi chwyth, cerddwch drwy'r dirwedd ddiwydiannol a phrofwch ychydig o gwrw a gynhyrchir yn lleol.

Un Diwrnod yn Rhondda Cynon Taf

Boed yn weithgareddau awyr agored, lleoedd hamddenol, golygfeydd ysbrydoledig neu drysorau hanesyddol, mae gan Rhondda Cynon Taf rywbeth i bawb.

Un Diwrnod ym Mro Morgannwg

Ewch ar daith o amgylch Bro Morgannwg gan brofi pier sydd newydd ei adfer, plasty Fictorianaidd, castell o'r 12fed ganrif, canolfan ymwelwyr arobryn a chestyll o'r oesoedd canol.

Un Diwrnod yn Sir Fynwy

Mae cymaint i’w weld a’i wneud yn Sir Fynwy. P’un a ydych yn mwynhau’r awyr agored, dadorchuddio hanes neu brofi ychydig o foethusrwydd, mae'r amserlen teithio un diwrnod hon yn cwmpasu popeth.