Skip to the content

Darganfod Pen-y-bont ar Ogwr - Teithiau 1 Diwrnod

Mae llawer o bethau i’w gweld ac i’w wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r ardal gyfagos. P’un a ydych yn ffafrio’r awyr agored, neu ychydig bach o siopa neu damaid o foethusrwydd, mae’r amserlen teithio un diwrnod hon yn cwmpasu popeth.

Arhosfan 1Parc Gwledig Bryngarw

Agorwyd y Parc i’r cyhoedd ym 1986 ac yn fuan iawn daeth yn un o hoff lefydd preswylwyr o dde Cymru a phobl ymhellach i ffwrdd. Mae gan y Parc 113 erw o lwybrau hardd a gerddi sy’n drawiadol ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. 

Arhosfan 2Parc Manwerthu McArthur Glen

Pen-y-bont ar Ogwr Gyda mwy na 90 o siopau, caffis a bwytai, Parc Manwerthu McArthur Glen Pen-y-bont ar Ogwr yw’r prif Barc Manwerthu yng Nghymru, lle gallwch ddod o hyd i’ch hoff labeli gyda phrisiau gostyngol hyd at 60% drwy gydol y flwyddyn. 

Arhosfan 3Pafiliwn y Grand

Wedi’i hadeiladu ym 1932, mae Pafiliwn y Grand yn lleoliad Art-Deco amlbwrpas sy’n cynnig sioeau byw, cyfleusterau cynadledda a phriodasau a phartïon preifat. Mae’r Theatr wedi’i lleoli ar lan y môr gyda golygfeydd panoramig o’r Arfordir Treftadaeth. 

Arhosfan 4Crochendy Ewenni

Crochendy Ewenni yw’r crochendy lleiaf yng Nghymru. Gall ymwelwyr â’r crochendy wylio’r potiau’n cael eu creu a gweld y darnau gorffenedig yn yr ystafell arddangos. 

Arhosfan 5Te Prynhawn yn The Great House

Mae adeilad rhestredig Gradd II* y Great House yn lle perffaith am de prynhawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cewch fwynhau sgons blasus, cacennau wedi’u pobi’n ffres a brechdanau, a choffi masnach deg neu baned ffres o de yn ein lolfa gysurus.