Skip to the content

Group Travel Guides

Canllawiau Teithio ar Gyfer Grwpiau

I gael y mwyaf o'ch ymweliad â De Cymru, cymerwch olwg ar ein canllawiau teithio newydd ar gyfer grwpiau.

Mae'r canllawiau’n cwmpasu Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Mae'r llyfrynnau yn adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw grŵp sy'n cynllunio ymweliad â De Cymru. Maent yn cynnwys rhestrau llety, atyniadau, gweithgareddau a mannau lluniaeth ar draws yr ardal sy'n addas ar gyfer grwpiau.

Maent hefyd yn cynnwys nifer o amserlenni enghreifftiol sy'n cynnig syniadau i grwpiau ynghylch yr amrywiaeth o atyniadau sydd ar gael yn Ne Cymru.

Gallwch lawrlwytho copi yma neu gallwch archebu un drwy ffonio +44 (0)845 6002639 neu e-bostio visit@southernwales.com