Skip to the content

Trosolwg Rhanbarthol

Mae’r rhanbarth wedi’i rannu i ddeg ardal wahanol, pob un â’i chymeriad a’i swyn ei hun.

Mae ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Rhondda Cynon Taf yn adnabyddus am eu hanes a’u treftadaeth. Mae Sir Fynwy gerllaw yn fwy gwledig ac yn enwog am ei bwydydd a diodydd rhagorol.

Mae Casnewydd a Chaerdydd yn ddinasoedd llewyrchus sydd ag atyniadau gyda’r gorau yn y byd. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg ceir cymysgedd o leoedd gwyliau glan môr, trefi marchnad a chefn gwlad hardd.

Beth am alw heibio a phrofi drosoch eich hun.

 

Teithio i Dde Cymru

Yn gryno ac yn hawdd mynd ato, mae De Cymru ond dwy awr i ffwrdd o Lundain ar hyd yr M4, tra bod Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr ond awr i ffwrdd o'n ffiniau.

Mae gan Dde Cymru gysylltiadau ffordd rhagorol drwy'r M4 (o Lundain a De-ddwyrain Lloegr) a'r M50/M5 (o Ganolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr) sy'n sicrhau bod y rhan fwyaf o Brydain, gan gynnwys meysydd awyr a therfynfeydd fferïau, o fewn taith o dair awr mewn cerbyd.

Mae system ffordd gynhwysfawr yn cysylltu'r prif drefi, tra bod nifer o drefi a phentrefi yn cael eu gwasanaethu gan y rhwydwaith trenau lleol sy'n cysylltu â gorsafoedd ar brif linell y rheilffordd. Am ragor o wybodaeth ar gyrraedd, a theithio o amgylch De Cymru ewch i Travel Line Cymru

Mapiau a Chanllawiau

Does dim yn well na chynllunio o flaen llaw a threfnu manylion eich ymweliad.
Dyma rai mapiau a chanllawiau defnyddiol i gyrchfannau  y gallwch eu lawrlwytho am ddim i'ch helpu i archwilio'r rhanbarth!