Mae gan Dde Cymru lawer i’w gynnig i chi os ydych chi'n chwilio am wyliau mewn dinas, cyfle i ymlacio ar y traeth neu wyliau mwy anturus sy'n llawn gweithgareddau. Mae gennym ni'r cyfan!
Er ei bod yn ardal fach iawn, dim ond oddeutu 75km (46.5 milltir) o'r dwyrain i'r gorllewin ac oddeutu 50km (30 milltir) o'r gogledd i'r de, mae De Cymru yn sicr yn cynnig llawer o bethau. Cefn gwlad ysblennydd, Parc Cenedlaethol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac arfordir dramatig.
Rydym yn falch iawn o'n hanes a'n diwylliant cyfoethog, y gellir eu gweld trwy ein cestyll a'n amgueddfeydd niferus, a'n iaith hynafol y gallwch roi cynnig arni dros eich hun.
Ond yn fwy na dim, rydym yn falch o'n cyfeillgarwch a'r croeso rydym yn ei gynnig i ymwelwyr. Pam na alwch chi heibio a'i brofi dros eich hun.