Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Teithio i Dde Cymru
Yn gryno ac yn hawdd mynd ato, mae De Cymru ond dwy awr i ffwrdd o Lundain ar hyd yr M4, tra bod Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr ond awr i ffwrdd o'n ffiniau.
Mae gan Dde Cymru gysylltiadau ffordd rhagorol drwy'r M4 (o Lundain a De-ddwyrain Lloegr) a'r M50/M5 (o Ganolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr) sy'n sicrhau bod y rhan fwyaf o Brydain, gan gynnwys meysydd awyr a therfynfeydd fferïau, o fewn taith o dair awr mewn cerbyd.
Mae system ffordd gynhwysfawr yn cysylltu'r prif drefi, tra bod nifer o drefi a phentrefi yn cael eu gwasanaethu gan y rhwydwaith trenau lleol sy'n cysylltu â gorsafoedd ar brif linell y rheilffordd. Am ragor o wybodaeth ar gyrraedd, a theithio o amgylch De Cymru ewch i Travel Line Cymru

Parcio a Man Ggollwng i Fysiau
Darganfyddwch lle allwch chi ollwng eich teithwyr, parcio eich bws neu gael gwybodaeth bellach ynglŷn â'n prif drefi.

Mapiau a Chanllawiau
Does dim yn well na chynllunio o flaen llaw a threfnu manylion eich ymweliad.
Dyma rai chanllawiau defnyddiol i gyrchfannau y gallwch eu lawrlwytho am ddim i'ch helpu i archwilio'r rhanbarth!