Skip to the content

Darganfod Bro Morgannwg - Taith 1 Diwrnod

Ewch am daith o gwmpas Bro Morgannwg a phrofwch rywfaint or gorau sydd ar gael ich grwpiau gan gynnwys pier newydd ei adfer, Plasty Fictoraidd, Castell or 12fed ganrif, canolfan groeso arobryn a chestyll canoloesol.

Safle 1Pafiliwn Pier Penarth

Mae gan Bafiliwn Pier Penarth sydd newydd ei adfer sinema gymunedol 70 sedd, lle ar gyfer y celfyddydau, digwyddiadau ac arddangosfeydd, caffi, bar a bwyty a mannau cyfarfod.

Safle 2 Tŷ a Gerddi Dyffryn

O fewn y gerddi, maer Plasty Fictoraidd crand yn edrych dros agweddau allweddol y gerddi. Cafodd rhannau or llawr gwaelod ar llawr cyntaf eu hadfer ac nid oes dodrefn ynddynt.

Safle 3 Castell a Chanolfan Celfyddydau San Dunwyd

Dewch i gael cip ar y castell hynod hwn y tu allan i Gaerdydd, a arferai fod yn gartref i bennaeth gwasg William Randolph Hearst ai westeion o Hollywood.

 Safle 4 Eglwys Sant Illtud a Chapel Galilea

Tan 2013 safodd Capel Galilea adfeiliedig ar ben gorllewinol Eglwys Sant Illtud. Heddiw maer adfail wedii drawsnewid yn Ganolfan Ymwelwyr arobryn.

Safle 5Cynnych Organig, Saffari a Theithiau o amgylch Gerddi Slade Farm

Dysgwch am fywyd pob dydd ar y fferm. Byddwch yn cwrdd ar anifeiliaid ac yn gweld bywyd gwyllt arbennig o wych. Wedii gosod mewn gardd 9 erw hardd, syn cynnwys golygfeydd trawiadol o Fae Dwnrhefn, mae Gerddi Slade Farm ar agor ar gyfer te a theisennau, y ffordd berffaith o ddod ach ymweliad i ben.