Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Darganfod Caerdydd - Taith 1 Diwrnod
Ewch ar daith o gwmpas Caerdydd a mwynhau rhai o’r profiadau gorau sydd gan Gaerdydd i’w gynnig gan gynnwys amgueddfeydd, castell a lleoliadau perfformiad unigryw.
Arhosfan 1 – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae’n hawdd treulio awr neu ddwy yn archwilio cynnwys yr orielau helaeth yn ogystal ag arddangosfeydd yr amgueddfa ac mae hefyd raglen reolaidd o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Ar gau ar ddydd Llun.
Arhosfan 2 – Castell Caerdydd
O deithiau VIP yn rhai o’r lleoliadau dan do gorau o oes Fictoria neu Daith Tŵr y Cloc i deithiau â thywyswyr mewn gwisgoedd o’r cyfnod drwy’r Llochesi Rhyfel neu’r Twˆ r Canoloesol, bydd y staff yn teilwra ymweliad eich grŵp yn arbennig i chi.
Arhosfan 3 – Teithiau Cwch Caerdydd
Mae Bae Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o brofiadau ar y dŵr, felly ewch ar daith i’w chofio yng Nghwch Caerdydd a mwynhau’r awyrgylch a’r golygfeydd prydferth.
Arhosfan 4 – yr Eglwys Norwyaidd
Mae Eglwys y Morwyr Norwyaidd gynt bellach yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Bae Caerdydd sy’n cynnig golygfeydd panoramig o’r glannau a’r llyn dŵr croyw. Dewch draw i edrych o’i gwmpas a chael paned o goffi a rhywbeth i’w fwyta yn ein Caffi.
Arhosfan 5 – Canolfan Mileniwm Cymru
Gallwch chi a’ch grŵp ychwanegu rhywbeth arbennig iawn at eich profiad drwy ddewis amrywiaeth o deithiau sy’n cynnig cipgolwg ar galon y Ganolfan. Mae’r daith fwyaf poblogaidd yn eich tywys y tu ôl i lwyfan yr adeilad eiconig hwn, gan ddilyn camau’r sêr.