Skip to the content

Darganfod Sir Fynwy - Taith 1 Diwrnod

Mae llawer i’w wneud a’i weld yn Sir Fynwy. P’un ai mwynhau’r awyr agored, darganfod hanes neu ychydig bach o faldod sy’n mynd â’ch bryd, mae rhywbeth ar eich cyfer i gyd ar y daith un diwrnod yma

Arhosfan 1Castell Cil-y-coed

Dechreuwch y diwrnod yng Nghastell Cil-y-coed. Wedi’i adeiladu gan y Normaniaid, daeth y castell wedyn yn gartref teuluol yn oes Victoria. Mae 55 erw o barc gwledig hyfryd o amgylch y castell. 

Arhosfan 2Hen Orsaf, Tyndyrn

Mae’r Hen Orsaf, Tyndyrn yn barc gwledig hardd yn Nyffryn Gwy. Mwynhewch y golygfeydd gyda theisennau, brechdannau a hufen iâ blasus yn y caffe, hen orsaf docynnau rheilffordd Fictoraidd.

Arhosfan 3Neuadd y Sir, Trefynwy

Mae Neuadd y Sir yn adeilad rhestredig Gradd I hanesyddol, a lleoliad yr achosion llys enwog yn erbyn y Siartwyr yn 1840. Dewch i weld y llys barn a mynd lawr i’r celloedd lle cadwyd y diffinyddion.

Arhosfan 4Gwinllan White Castle, Y Fenni

Mae croeso cynnes i ymwelwyr yng Ngwinllan White Castle brofi harddwch a thawelwch y lleoliad gwledig yma.

Arhosfan 5Te prynhawn yng Ngwesty’r Angel

Mwynhewch de prynhawn ysblennydd yng Ngwesty’r Angel yn y Fenni, sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau dros y blynyddoedd. Mae detholiad eang o fathau te, brechdannau a theisennau.