Skip to the content

Darganfod Casnewydd - Taith 1 Diwrnod

Ewch ar daith o amgylch Casnewydd. Ewch i weld pontydd cywrain, adfeilion Rhufeinig a chartrefi mawreddog, a mwynhau tawelwch a llonyddwch gwarchodfa natur.

Man 1Pont Gludo Casnewydd

Teithiwch ar draws yr afon ar y gondola crog ac, os nad yw’r uchder yn effeithio arnoch, dringwch y twˆ r a cherdded ar hyd y nenbont lefel uchel – yma fe welwch olygfeydd syfrdanol.  www.fontb.org.uk

Man 2Llong Casnewydd

Wedi’i darganfod dan lannau mwdlyd yr Afon Wysg yn 2002 ac wedi’i datgladdu gam wrth gam, mae’r llong wrthi’n cael ei thrin a’i hail-adeiladu. Mae croeso i ymwelwyr ddod i weld y gwaith, i ddysgu am hanes y llong ac i glywed cynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Man 3Gwlypdiroedd Casnewydd

Ar lannau Aber Afon Hafren, mae Gwlypdiroedd Casnewydd yn cynnig hafan i fywyd gwyllt. Canolfan Ymwelwyr RSPB yw’r lle delfrydol i ddysgu am yr hyn y gallech ei weld. Mae hefyd yn lle gwych i fwynhau paned o de wrth fwynhau golygfeydd godidog. 

Man 4Adfeilion Rhufeinig ac amgueddfa Caerllion

Mae gan Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru arddangosfeydd ardderchog yn llawn creiriau o’r ardal, ynghyd ag ystafelloedd arddangos ac adluniad o ystafelloedd aelodau’r lleng. 

Man 5Canolfan Gelf a Chrefft Ffwrwm

Mae Canolfan Gelf a Chrefft Ffwrwm ger y stryd fawr yng Nghaerllion, yng nghanol gardd gaerog o’r deunawfed ganrif. Mae’n cynnwys sawl siop grefftau, ystafell de gyda than coed agored mewn tywydd oer, ac oriel gelf sy’n arddangos gwaith artistiaid a chrefftwyr lleol a chenedlaethol. 

Man 6Tŷ Tredegar

Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i leoli mewn 90 erw o diroedd hardd. Am dros 500 o flynyddoedd, roedd yn gartref teuluol i’r teulu Morgan. Gall ymwelwyr glywed am hanes y tŷ a’r perchenogion hynod neu grwydro trwy’r parcdir deniadol.