Skip to the content

Darganfod Blaenau Gwent - Taith 1 Diwrnod

Ewch am daith o amgylch Blaenau Gwent, ardal sy’n ymfalchïo yn ei threftadaeth. Gwelwch gofeb enfawr y Guardian, ymweld â pharciau hardd ac adeiladau hanesyddol cyn gwneud ychydig o siopa.

Stop 1Guardian

Yn sefyll uwchben pentref Six Bells mae Cofeb Lofaol y Guardian yn coffau trychineb pwll glo Six Bells 1960, cafodd y gofeb ei dadorchuddio yn 2010.

Stop 2 – Swyddfeydd Cyffredinol ac Amgueddfa

Hen swyddfa’r gwaith dur gyda phensaernïaeth odidog sy’n gartref i Archifdy Gwent ac Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy.

Stop 3 – Tŷ a Pharc Bedwellte

Mae Tŷ  Bedwellte yn blasty rhestredig cyfnod y Rhaglywiaeth yn Nhredegar. Mae gardd hanesyddol o’i amgylch a sefydlwyd ddechrau’r 19eg ganrif ar gyfer Meistr Gwaith Haearn Tredegar.

Stop 4 – Parc Bryn Bach

Mae Parc Bryn Bach mewn lleoliad cyfleus ger yr A465 yng nghalon Cymoedd De Cymru, mewn 340 erw o goetir cymysg glaswellt a choetir gyda llyn 36 erw yn ganolbwynt.