Skip to the content

Darganfod Caerffili - Taith 1 Diwrnod

Ewch am dro o gwmpas Caerffili. Castell enfawr, tyˆ llawn ysbrydion a chofeb deimladwy. Cewch orffen y diwrnod gyda hufen iâ lleol blasus yng nghanol cefn gwlad hardd.

Arhosfan 1Castell Caerffili

Castell eiconig o’r 13eg ganrif a’r mwyaf ond un ym Mhrydain. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys twˆ r sydd ar ongl fwy na’r twˆ r yn Pisa a’r neuadd fawr odidog, lle cynhaliwyd llawer o achlysuron ffurfiol ar hyd y canrifoedd. 

Arhosfan 2Gardd Goffa Senghenydd

Mae’r Ardd Goffa yn Senghenydd yn coffáu pawb yng Nghymru a fu farw o ganlyniad i’r diwydiant glo. Caiff pob trychineb mewn glofa ei choffáu ar gyfres o gerrig palmant ceramig sy’n rhan o’r ‘Llwybr Coffa’ o gwmpas yr ardd. 

Arhosfan 3Maenordy Llancaiach Fawr

Maenordy hanesyddol lle mae cymeriadau yng ngwisgoedd yr 17eg ganrif yn eich tywys o gwmpas y safle. Cewch wybod sut oedd bywyd iddyn nhw yn ystod y rhyfel cartref. Dywedir hefyd mai hwn yw’r tŷ â’r mwyaf o ysbrydion yng Nghymru.www.

Arhosfan 4Amgueddfa’r Weindio

Amgueddfa sy’n adrodd hanes Caerffili a’r cyffiniau. Mae amrywiaeth o greiriau a chyfres o arddangosfeydd sy’n cylchdroi yn dod â hanes yn fyw. Gwyliwch am y peiriant weindio Fictoraidd anferth sy’n dod yn fyw ar rai dyddiau penodol yn ystod y flwyddyn.