Skip to the content

Gwnewch 2021 eich Blwyddyn Antur yn Ne Cymru

A ydych chi'n bwriadu ymweld â De Cymru?Wrth i ni badlo yn y môr, glanhau ein hesgidiau cerdded, neu fynd allan ar antur epig, gadewch inni wneud addewid gyda'n gilydd – i wneud y pethau bychain a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.- Addo | Gwnewch eich addewid i Gymru | Croeso Cymru

P'un a yw'r flwyddyn ddiwethaf o gyfyngiadau symud wedi eich gadael yn ceisio llif adrenalin, neu a ydych chi am gael profiad unwaith mewn oes na fyddwch byth yn ei anghofio, nid oes lle gwell na De Cymru.

Gyda phopeth o syrffio i feicio eithafol, a hyd yn oed brofiad weiren wib bywiogol newydd sbon, mae digon o ddewis i bobl sy'n ceisio cyffro.

Felly, os ydych chi'n teimlo'n anturus, dyma rai o'n hawgrymiadau i roi cynnig arnynt pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny – byddwch yn rhan o Flwyddyn Awyr Agored Croeso Cymru 2021.

Bydd digon o ddewis gennych yn Rhondda Cynon Taf gan eu bod yn croesawu dau atyniad newydd yr haf hwn!

Gyda chynlluniau i agor yn ystod haf 2021, ar fynydd y Rhigos uwchben Hirwaun, lle ceir golygfeydd panoramig godidog, mae'r ganolfan antur hon ar hen safle mwyngloddio glo Glofa'r Tŵr yn rhoi bywyd newydd i'r safle hanesyddol hwn. Fel cartref i Phoenix a’r Tower Coaster, Zip World Tower yw weiren wib gyntaf y cwmni yn Ne Cymru.

Phoenix yw'r weiren wib gyflymaf y byd ar eich eistedd; gyda phedair llinell gyfochrog mewn dau barth weiren wib ar wahân, bydd yr weiren wib hon yn eich hedfan i ffwrdd ar draws cefn gwlad Cymru. Yn y cyfamser, y Tower Coaster yw'r unig un o'i fath yn Ewrop! Gyda cheir gwyllt ochr yn ochr unigryw, mae'n bosib i ddau o bobl deithio ar yr un pryd. Pwy fydd yn rhan o'ch tîm chi? Darganfyddwch fwy ac archebwch

Nid dyna bopeth i'r sir, gan fod Parc Beicio Teuluol Gravity hefyd yn agor ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr. Mae hwn yn brofiad beicio unigryw i’r teulu gyda llwybrau i lawr allt a thri llwybr ‘pwmp’ ar hyd y llwybrau i roi cynnig arnynt. Bydd gwasanaeth codi yn mynd â chi a'ch beic i ddechrau'r llwybr. Dewch â'ch beiciau eich hun, ond peidiwch â phoeni os na allwch, gan fod beiciau ar gael i'w llogi ar y safle.

Ar ôl yr holl ymarfer corff, ewch i gaffi Black Rock, sydd wedi'i ailwampio ac sy'n agos i'r maes chwarae antur newydd sbon i blant. Gallwch newid ymweliad am ddiwrnod i mewn i benwythnos llawn trwy archebu lle yn y gwesty sydd newydd ei addurno, neu gallwch aros yn eich carafán neu yn eich cerbyd gwersylla a chysgu o dan y sêr. Darganfyddwch fwy ac archebwch 

    

Ewch ar gaiac i ynys gyfrinachol, datblygwch eich sgiliau byw yn y gwyllt, a nofiwch yn y dŵr agored ym Mharc Bryn Bach, Tredegar

Am gael profiad fel Bear Grylls? Caiaciwch ar draws y dyfroedd tawel i'r ynys yng nghanol y llyn a chysylltu â'r diffeithwch ar gwrs byw yn y gwyllt; rhowch gynnig ar adeiladu llochesu, cynnau tanau, a hyd yn oed chwilota am eich pryd bwyd eich hun!  Ar ôl misoedd o gyfyngiadau symud, dewch â'r holl deulu ynghyd, gadewch gysuron eich cartref, a mwynhewch brofiad yn yr awyr agored na ddylid ei golli.

Os ydych am gael profiad newydd, cyfnewidiwch y pwll nofio am nofio yn y dŵr agored yn llyn 36 erw Parc Bryn Bach. Mae'r dŵr yn eang, mae'r awyr yn lân ac yn ffres, mae'r  golygfeydd yn wyrddach, ac mae byd cwbl newydd yn agor o’ch blaen. Lleolir y llyn mewn 340 erw o goetiroedd a dolydd blodeuog; mae'r cefndir naturiol yn ei wneud hyd yn oed yn fwy godidog. A gallwch archebu lle yn y safle carafanau/gwersylla er mwyn gwneud y gorau o'ch ymweliad. Darganfyddwch fwy ac archebwch

    

Cael profiad llawn adrenalin o feicio oddi ar y ffordd yng ngolygfeydd ysblennydd, Merthyr Tudful

P'un a ydych yn beicio am hwyl neu fel teulu, mae Bike Park Cymru yn addo i ddarparu profiad bythgofiadwy. Gyda llawer iawn o adrenalin ac ychydig o hwyl, treuliwch eich dyddiau ymhlith mynyddoedd Cymru yn archwilio dros 40 o lwybrau gwahanol – mae o leiaf tri llwybr newydd yn agor yn 2021.

Wedi'i ddisgrifio fel 'y dewis gorau a'r dewis mwyaf amrywiol o lwybrau beicio mynydd ar gyfer pob tywydd yn y DU', mae gan y llwybrau hyn bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn cael sesiwn feicio wych. O wasanaeth codi beiciau i fynd â chi i ben y llwybrau, beiciau ac offer y gallwch eu llogi, a hyfforddiant, yn ogystal â chaffi gwych ar gyfer ymlacio ar ôl beicio, dyma'r cyfle perffaith i chi fynd allan i’r awyr agored a theimlo'n fywiog. Darganfyddwch fwy ac archebwch.

  

Syrffio! Dysgwch gan yr arbenigwyr a syrffiwch yn Rest Bay, Porthcawl

Pwy sydd angen Awstralia?! Llai na thair awr o Lundain, dyma'r gyrchfan chwaraeon dŵr agosaf, fwyaf cyson o'r brifddinas. Porthcawl yw Gold Coast Cymru – gan gynnig rhai o'r traethau syrffio gorau yn Ne Cymru.

Bydd Ysgol Syrffio Porthcawl heb ei hail, a leolir yng nghanolfan chwaraeon dŵr gwerth £1.5 miliwn Rest Bay, sydd newydd ei datgelu, yn eich troi'n syrffwr proffesiynol yn gyflym iawn. O ddifrif! Fel mesur o lwyddiant yr hyfforddwyr, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael gwersi’n llwyddo i sefyll ar y bwrdd ar eu diwrnod cyntaf!

Mae Bae Sandy yn agos ar hyd Promenâd Dwyreiniol Porthcawl. Bron i filltir o hyd, mae'r traeth yn boblogaidd gyda syrffwyr, ymdrochwyr a theuluoedd, ac mae digon o atyniadau i blant gyda phyllau creigiau ar y pentir i'w harchwilio pan fo’r môr ar drai.

Gallwch hefyd roi cynnig ar y math o chwaraeon dŵr sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, sef padlfyrddio sefyll. Os nad ydych yn cwympo(!), mae'n ffordd dda o archwilio ein harfordir ysblennydd gan y gallwch deithio pellterau mawr yn eithaf hawdd. Darganfyddwch fwy ac archebwch. 

  

O lwybrau cerdded neu deithiau beic cyffrous, mae Coedwig Cwm-carn yn llawn antur!

Mae bryniau'r ardal hon, a gloddiwyd yn flaenorol, wedi cael eu trawsnewid yn goedwigoedd heddychlon gyda golygfeydd trawiadol lle mae natur wedi adennill y mwyafrif o'r gorffennol diwydiannol.

O dan filltir i naw milltir, mae teithiau cerdded sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu – mae phob un yn cynnig golygfeydd a thirwedd wahanol a gallwch weld harddwch Coedwig Cwm-carn, y llyn eang, a llawr y dyffryn.

Teimlo'n fywiog? Ewch am daith gerdded dwy awr o hyd i fryngaer Twmbarlwm, sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn. Ar un adeg yn ganolfan i lwyth Celtaidd y Silwriaid, mae'n darparu golygfeydd godidog, o Fae Caerdydd i'r de i Fannau Brycheiniog i'r gogledd.

Mae Coedwig Cwm-carn yn lle pwysig i feicwyr, gyda'r Llwybr Twrch arswydus, Cafall, a'r llwybrau i lawr allt anhygoel, sef Y Mynydd a Pedalhounds (gwasanaeth codi beiciau ar gael ar Y Mynydd), y llwybr glas Pwca, a'r llwybr ‘pwmp’ oll ar gael yn y cwm cuddiedig hwn. Mae bron pob un o'r llwybrau sengl wedi'u hadeiladu'n arbennig trwy goetiroedd ac ar hyd chefnau agored gyda golygfeydd dramatig.

Fel bonws ychwanegol, gallwch archebu lle yn un o’r cabanau gwyliau a phodiau glampio hardd ar y bryn i wneud y gorau o'ch ymweliad. Darganfyddwch fwy ac archebwch. 

    

Rafftio dŵr gwyn yng nghanol Caerdydd?Yn sicr!

Wastad wedi cael yr arwydd i fynd ar y dyfroedd gwyllt? Gan gynnwys troadau a throeon, mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn berffaith ar gyfer ceiswyr cyffro ac mae'n ffordd wych o brofi eich sgiliau padlo! Ar y cyd â rafftio, mae caiacio a chanŵio, yn ogystal â phadlfyrddio sefyll, sy'n weithgaredd tawelach.

Fel arall, gallwch ymddwyn fel mwnci (neu rhowch her i'ch mwncïod bach) wrth fynd ar ein hantur rhaffau uchel, Air Trail. Rhowch gynnig ar uchder y tir dur a phren sy'n hongian yn uchel uwchben y dyfroedd gwyllt. Darganfyddwch fwy ac archebwch.

 

   

Cydiwch yn eich helmed ac ewch i'r trac am brofiad bythgofiadwy …

Ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud wedi gadael ichi deimlo fel hyrwyddwr Olympaidd? Rhowch ef ar brawf! Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd yn un o pum felodrom dan do a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrydain, ac mae'n gartref i gwersylloedd hyfforddi rheolaidd Tîm Prydain Fawr a Thîm Paralympaidd Prydain Fawr.

Ymunwch â chwrs i ddarganfod cyfrinachau aros ar y beic wrth feicio'n gyflym ar hyd y trac hirgrwn 250 metr o hyd gyda banciau â 42 gradd yn y naill ben, cyn ymuno â'r nosweithiau rasio rheolaidd. Mae hefyd trac beicio Speedway yn yr awyr agored a digon o lwybrau gwych ar draws Gwastadeddau Gwent ac ar hyd Dyffryn Wysg ar gyfer teithiau beicio hirach os bydd yr haul yn gwenu. Darganfyddwch fwy ac archebwch. 

  

Hwyliwch i fachlud haul De Cymru yn Llyn Llandegfedd

Wedi'i lleoli yng nghanol cefn gwlad hyfryd yn agos i Gwmbrân, mae Canolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Llyn Llandegfedd yn cynnig un o'r profiadau hwylio gorau sydd gan Dde Cymru i'w gynnig.

Mae'r llyn 434 erw yn gartref i amrywiaeth o weithgareddau dŵr – gyda gwersi ar fordhwylio, hwylio dingi, padlfyrddio sefyll, canŵio, caiacio ac adeiladu rafftiau, rydym bron yn sicr y byddwch yn dod o hyd i rywbeth yr ydych yn ei fwynhau. Gallwch hyd yn oed roi cynnig ar ioga ar badlfwrdd sefyll ac mae nofio gwyllt yn dechrau yn 2021. Namaste. Darganfyddwch fwy ac archebwch

 

   

Datgelwch chwedlau wrth archwilio harddwch Bro Morgannwg

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, yn mynd â chi o amgylch Cymru, gan eich galluogi i ddarganfod amrywiaeth arfordir y wlad epig hon. Ar hyd rhan arw Arfordir Treftadaeth Morgannwg y Fro, gallwch weld y goleudy olaf â chriw yng Nghymru, yn ogystal â disgyn i draethau diddorol fel Bae Tresilian ac Ogof Reynard.

Yn y canoldir, cerddwch mewn ôl troed un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Fro ar Daith Gerdded Treftadaeth Iolo Morganwg. Os ydych yn ddigon dewr, rhowch gynnig ar daith gerdded Cae Bwganod, lle y byddwch yn dod o hyd i Siambr Gladdu Tinkinswood o’r cyfnod Neolithig – ei chapfaen yw un o'r mwyaf yn Ewrop.

Peidiwch ag anghofio i lawrlwytho ap Hanesion y Fro, sy'n dod â'r holl straeon y tu ôl i'r llwybrau i fyw. Bydd straeon am frad, rhamant, arwyr Hollywood a gweithredoedd trychinebus gan fôr-ladron enwog yn gwneud i'ch teithiau cerdded ddod yn fyw gyda hanes gwir y Fro. Darganfyddwch fwy am Lwybr Arfordir Cymru a dadlwythwch Ap Vale Tales.

  

Afon Gwy, sy'n enwog am eogiaid, dyfrgwn … a chanŵio!

Mae archwilio dyffryn godidog afon Gwy o'r afon yn un o'r ffyrdd gorau o fwynhau, ymlacio a phrofi'r ardal syfrdanol hon o harddwch naturiol eithriadol. 

Dylech baratoi pecyn cinio! Gan ddechrau o'r ganolfan, gallwch badlo'ch canŵ hyd at 100 milltir, gan gymryd amrywiaeth lwybrau i Gas-gwent, lle mae afon Gwy yn ailgwrdd ag afon Hafren ymhlith mynyddoedd Cymru.

Os yw'r holl badlo hwnnw wedi eich gadael yn flinedig, gall teithwyr aml-ddiwrnod wneud penwythnos cyfan ohono ac archebu profiad tipi i gael seibiant mawr ei angen, a rhoi cynnig ar badlfyrddio sefyll neu nofio gwyllt. Bydd Inspire2Adventure a Run Wild yn sicrhau eich bod chi'n cael ymweliad cofiadwy.

 

  

Gwnewch benwythnos ohoni

Mae gan Dde Cymru ddewis amrywiol o lefydd i aros ynddynt – o tipis ac ysguboriau gwersylla, i westai moethus a bythynnod hunanddarpar sy'n gartref o gartref. Ewch i www.southernwales.com/cy/ ar gyfer nifer o syniadau i droi eich ymweliad yn wyliau.

Canllawiau'r llywodraeth

 

Gwiriwch ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru