Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Ffôn
Gwefan
Cyfeiriad
Parc Gwledig Cwm Dâr
Aberdare
Rhondda Cynon Taf
CF44 7RG
CF44 7PS
Y dref agosaf
0 milltir o Aberdâr
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr wedi'i leoli mewn 500 erw o gefn gwlad eithriadol. Dyma oedd y parc gwledig cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei greu ar hen dir diwydiannol. Roedd y parc yn arfer bod yn gartref i bedwar ar bymtheg o byllau glo, ond erbyn heddiw, mae'r Afon Dâr yn llifo o'r mynyddoedd i'r gogledd-orllewin o Gwm Cynon drwy gwm o goed derw, bedw a gwern. Mae'r parc wedi'i leoli ger tref Aberdâr yn ac yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant, gyda'i lwybrau a thrac beiciau. Beth am aros yn y parc carafanau sydd newydd gael ei ddiweddaru ac sy'n cynnwys bloc cawodydd newydd a mannau gwefru trydan - perffaith ar gyfer gwyliau yng nghefn gwlad! Mae parc antur gwych ar gyfer y plant bach a chaffi ar y safle, yn ogystal â Physgodfa Brithyll newydd sbon Cwm Dâr. Arhoswch, Beiciwch, Dysgwch a Mwynhewch! www.parcgwledigcwmdar.co.uk
Cyfleusterau
Croeso i Blant
Croeso i Anifeiliaid Anwes