Skip to the content

Walking the Garw Circular Trail
Walking the Garw Trail

De Cymru – y lle gorau i fynd i gerdded

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae "mynd am dro" a mwynhau awyr iach wedi bod yn un o'r gweithgareddau pwysicaf i ni i gyd. 

Mae ardal De Cymru wedi'i bendithio â thirwedd amrywiol felly mae yma amrywiaeth eang o deithiau cerdded. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn daith 870 o filltiroedd ar hyd yr arfordir (ac mae modd dilyn y llwybr cyfan o gwmpas Cymru ar hyd Llwybr Clawdd Offa o'r gogledd i'r de) yn ogystal â llawer o lwybrau byr, teuluol ym mhob parc gwledig, tref a chymuned. 

Dyma rai o’r llwybrau gorau y gwnaethom ni eu dewis ar sail pa mor odidog oedd y golygfeydd, eu cysylltiad â hanes neu’r “peth arbennig” a hynod hwnnw sy’n gwneud pob un yn gofiadwy. 

Mae Taith Gerdded Dyffryn Gwy yn mynd â chi drwy rai o’r mannau harddaf yn y DU, ac yn eich tywys heibio i henebion mor drawiadol ag Abaty Tyndyrn. Mae hefyd yn llifo drwy ardal lle gallwch flasu gwin, cwrw a medd lleol – rhywbeth i’w groesawu ar ôl diwrnod caled o gerdded. Os mai taith ar lan y dŵr sy’n mynd â’ch bryd, edrychwch ar deithiau cerdded arfordirol gorau Pen-y-bont ar Ogwr sy'n cynnwys llwybrau drwy Warchodfeydd Natur Merthyr Mawr neu Gynffig yn ogystal â llwybrau heibio i Gastell Ogwr. Antur wych i’r teulu. 

Mae yna olygfeydd godidog i’w gweld wrth fynd am dro o gwmpas y Cymoedd hefyd. Un o'r teithiau gorau yw llwybr cylchol Mynydd Pen-pych yng Nghwm Rhondda. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain i mewn ac allan o goedwigoedd, cewch weld rhaeadrau ac aneddiadau o'r Oes Haearn a thystiolaeth o hanes diwydiannol yr ardal, a hynny ar daith gerdded lai na 6 milltir o hyd. Fel arall, gallwch archwilio Tirwedd Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon drwy ddilyn Llwybr y Mynydd Haearn o amgylch y dref a thros y bryniau sydd â chreithiau diwydiannol a golygfeydd anhygoel. 

Mae tirwedd amrywiol yr ardaloedd wedi ysbrydoli pobl mewn pob math o ffyrdd; mae Llwybr Nye Bevan ger Tredegar yn gyfle i chi weld y fan lle’r oedd Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, yn arfer ymarfer ei areithiau a dianc rhag prysurdeb gwleidyddiaeth. Wrth i chi wneud eich ffordd i gyfeiriad y gogledd mae golygfeydd godidog o Fannau Brycheiniog. Neu, os dilynwch chi daith gerdded Gylchol Morlais sy'n rhedeg drwy'r cwrs golff ac yn mynd heibio i Reilffordd Fynydd Aberhonddu, gallwch weld drosoch eich hun pam y penderfynodd Gilbert de Clare, trydydd Iarll Caerloyw adeiladu castell yn uchel uwchben Cwm Taf. 

Mae gan Fro Morgannwg 10 Llwybr Bro sy'n wych i deuluoedd. Mae taith Llam yr Eogiaid yn mynd heibio i ddyffryn rhewlifol, bryngaer Oes Haearn Cwm George, a gyda lwc efallai y cewch gip ar eog yn llamu. Rydych chi hefyd yn siŵr o weld natur ar ei orau yn y Pedwar Loc ar Ddeg ger Casnewydd. Mae taith gerdded Gylchol y Pedwar Loc ar Ddeg yn dilyn y gamlas ar hyd y gyfres nodedig o lociau cyn dod at goedwigoedd a llynnoedd. Mae Fforest Cwm-carn gerllaw yn fan cychwyn gwych arall ar gyfer ambell daith gerdded; gallwch herio’ch hun i gyrraedd brig Twmbarlwm neu ymlwybro’n hamddenol o amgylch y llynnoedd a'r coedwigoedd, a mwynhau’r carpedi lliwgar o glychau'r gog ar ddiwedd y gwanwyn.

Oeddech chi'n gwybod fod yna’r fath beth â "Choed Campus"? Wel, yng Nghaerdydd, mae taith gerdded o amgylch Parc Bute  gyda chyfle i chi weld 41 o Goed Campus (sef y rhai talaf neu letaf o'r rhywogaeth), efallai Coeden Geirios Sunset Boulevard neu'r Gelynen Grych. Ffordd wych o roi gwedd newydd ar daith gerdded yn y brifddinas. 

Cymerwch gip ar y teithiau cerdded gwych o gwmpas De Cymru; beth am wneud penwythnos ohoni?