Skip to the content

Twristiaeth De Cymru - Teithio Grŵp Pecyn Offer

Mae teithio grŵp yn sector pwysig i Dde Cymru, hyd yn oed yn y cyfnod ôl-Covid 19. Mae’n anodd meddwl am fusnes yn y sectorau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol na allai elwa ar groesawu ymweliadau grŵp.

Mae’r sector twristiaeth coetsys a theithio grŵp yn ffrwd incwm ddefnyddiol a dibynadwy i fusnesau twristiaeth. Mae grwpiau o ymwelwyr sy’n barod i wario yn gallu bod yn gwsmeriaid gwerthfawr i westai, atyniadau a chyrchfannau. Maen nhw o werth i atyniadau treftadaeth; arosfannau prydau bwyd; canolfannau manwerthu; darparwyr llety; darparwyr cludiant; tywyswyr; orielau celf a chrefft a theatrau. Er eu bod yn darparu llai o elw na’r farchnad digwyddiadau busnes, maen nhw’n helpu i leddfu’r problemau sy’n gysylltiedig â’r elfen dymhorol; maen nhw’n darparu ffrydiau incwm sy’n fwy rhagweladwy na rhai grwpiau eraill o gwsmeriaid ac ar ôl iddyn nhw wneud eu harcheb, maen nhw bob amser yn troi i fyny beth bynnag yw’r tywydd. Hefyd, o safbwynt yr effaith amgylcheddol, mae teithio ar goetsys yn curo pob math arall o gludiant.

Lluniwyd y pecyn cymorth hwn i helpu busnesau ledled De Cymru i weithio gyda'r Fasnach Deithio. Dadlwythwch yma.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r digwyddiadau masnach grŵp a theithio a drefnir gan Dde Cymru, yna cysylltwch.