Skip to the content

Drysau Agored 2023

Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.

Mae'r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i'r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.

Dyma rai o'r Diwrnodau Agored ar draws De Cymru - gallwch ddarganfod popeth sy'n digwydd ar y Dudalen Drysau Agored

Cloc Tref Tredegar - Sad 02 Medi 2023 10:00 - 12:00 

Eglwys Sant Tyfodwg, Glynogwr - Sad 02 Medi - Sul 03 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Capel y Tabernacl, Porthcawl - Sad 02 Sep 2023 10:00 - 16:00 

Eglwys Sant Ceinwyr, Llangeinwyr - Sad 02 Medi 2023 + 8 dyddiad arall 12:00 - 15:00 

Tŷ Sant Ioan, Pen-y-bont ar Ogwr - Sul 10 a Sad 30 Medi 2023 11:00 - 16:00 

Canolfan Dreftadaeth Heddlu De Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr - Maw 12 Medi 2023 + 5 dyddiad arall 10:00 - 16:00 

Fferm Gartref Ruperra - Sad 23 Medi 2023 11:00 - 17:00 

Eglwys Dewi Sant, Ysgyryd Llandewi - Sad 09 Medi 2023 10:00 - 13:00 

Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Bertholau - Sad 09 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Capel Betws, Y Fenni - Sad 09 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Llwyn Celyn, Cwmyoy - Sad 16 Medi - Sul 17 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Eglwys Ddiwygiedig Unedig Stryd y Castell, Y Fenni - Sad 16 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Tŷ a Pharc Tredegar, Casnewydd - Sul 03 Medi 2023 11:00 - 16:30 

Eglwys Gadeiriol Casnewydd - Sad 09 Medi 2023 10:00 - 16:00 

Amffitheatr a Barics Caerllion - Sad 09 Medi - Sul 10 Medi 2023 11:00 - 13:00 

Côr Rhisga - Sad 23 Medi 2023 10:00 - 16:00