Skip to the content

Manteisio ar fuddion mentro i'r awyr agored anhygoel yn ne Cymru

Nid yw'r dyddiau byrrach a'r tywydd gwyllt yn golygu bod yn rhaid i chi gadw'n glyd ac aros y tu mewn yn ystod yr hydref hwn. A dweud y gwir – mae’n rhaid eich bod wedi cael digon o hynny eleni yn barod!

Yn lle hynny, mentrwch i'r awyr agored a rhowch hwb i'ch iechyd corfforol a'ch iechyd meddwl yn ne Cymru.

Wrth aros yn lleol, cewch ddarganfod anturiaethau nad oeddech erioed, o bosib, yn gwybod eu bod ar drothwy eich drws, neu defnyddiwch ychydig o ysbrydoliaeth i ddechrau llunio rhestr o bethau y byddech yn dyheu i’w gwneud yn ne Cymru cyn diwedd eich oes, a chynlluniwch ymweliad yn y dyfodol unwaith y bydd yn ddiogel i wneud hynny.

O wynebu eich ofnau i wneud rhywbeth rydych yn dwlu arno, oll gyda chefndir bendigedig o'ch cwmpas, mae'n sicr bod digonedd o bethau ar gael i chi.

Ar eich beic

A yw'n well gennych daith ar ddwy olwyn sy'n araf a phwyllog, neu antur fwy gwefreiddiol?

Gall y teulu cyfan fwynhau sawl llwybr beicio ledled y rhanbarth, ac mae rhannau mawr ohonynt yn rhydd o draffig er mwyn eich cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel.

Fe welwch amrywiaeth enfawr o dirweddau trefol a maestrefol ynghyd â nifer o amgylcheddau mwy heddychlon drwy fwrw'ch olwynion ar Lwybr Taf. Gyda'i hanes ar un adeg fel cysylltiad trafnidiaeth hanfodol trwy berfeddion deheuol Cymru, mae'n parhau i fod yn ffefryn diolch i'w filltiroedd ar filltiroedd o harddwch naturiol. Yn rhydd o draffig i raddau helaeth, ac yn ymestyn o Fae Caerdydd, i fyny trwy ranbarthau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, mae'n cynnig y cyfle perffaith i ddewis a dethol rhannau i'w beicio. Cewch antur wahanol bob tro; cymerwch hoe a darganfyddwch gyfoeth o safleoedd ar hyd y ffordd, fel safle ysblennydd Castell Coch.

 

Beth am ymlwybro trwy Barc Gwledig Porthceri ym Mro Morgannwg? Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac mae'r 220 erw o goetir a dolydd mewn dyffryn cysgodol yn arwain at draeth o gerrig bach a chlogwyni godidog. Mae Llwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg drwyddo, sy'n ffefryn gan lawer oherwydd y golygfeydd anhygoel a geir ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

Awydd mwy o gyffro? Cewch ddringfeydd i'ch profi, a disgynfeydd ysgubol, sydd oll yn rhan o brofiadau beicio mynydd sydd heb eu hail yn y DU. Treuliwch y penwythnos yn archwilio sawl parc sefydlog a phwrpasol i feiciau, gan gynnwys Coedwig Cwmcarn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili y Mynydd Du yn Sir Fynwy a Chwm Garw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gan beidio ag anghofio Parc Beicio Cymru, a gafodd ei adeiladu gan feicwyr ar gyfer beicwyr ym Merthyr Tudful. Croesewir beicwyr mynydd â gallu canolradd i'r rheiny sy'n arbenigwyr ar ddisgyn i lawr elltydd – mae'n ffordd wefreiddiol o dreulio'ch diwrnod.

Os byddwch yn teimlo'n gryf, gallech hyd yn oed wneud pethau i'r gwrthwyneb a rhoi cynnig ar ‘Ddringfa Tymbl’ – un o'r dringfeydd beicio mwyaf enwog yng nghymoedd De Cymru wrth i gyrraedd copa'r Blorens – sydd â golygfeydd dros ddyffryn afon Wysg yn y Fenni.

A fyddai'n well gennych ymgolli mewn ychydig o hanes? Nid oes dim gwell na dilyn Llwybr Afon Lwyd yn Nhorfaen. Byddwch yn teithio o Gwmbrân i Flaenafon - tirwedd anhygoel a oedd, ar un adeg, yn gyfoeth o bopeth angenrheidiol ar gyfer cynnal y Chwyldro Diwydiannol. Mewn gwirionedd, mae hi mor unigryw ei bod yn Safle Treftadaeth y Byd.

Mae croeso i'r rheiny sy'n chwilio am wefr

Yn chwilio am gampau i gynhyrfu'r adrenalin? Parc Bryn Bach, ym Mlaenau Gwent, yw'r lleoliad perffaith ar gyfer amrediad o weithgareddau antur i bob oedran. Beth am gerdded ar hyd ceunant, dringo, ogofa, canŵio, neu gaiacio ar y llyn? Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol bob tro er mwyn gwneud pob ymweliad yn un unigryw.

Os mai chwaraeon dŵr sy'n mynd â'ch bryd, cymerwch gipolwg ar Ganolfan Ymwelwyr a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Llandegfedd, sy'n cwmpasu cefn gwlad â thirwedd fryniog Sir Fynwy a Thorfaen, a chodwch hwyl. P'un a ydych yn ddechreuwr a bod angen ychydig o ymarfer arnoch, neu'n hen law wrth hwylio ac am logi cyfarpar, cewch nifer o brofiadau cyffrous. Ar yr un pryd, mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn gartref i'r unig gwrs rafftio dŵr gwyn yn Ne Cymru ac mae llu o weithgareddau ar gael.  Beth arall allai fod ei angen arnoch? 

Yn Rhondda Cynon Taf, rhowch gynnig ar brofi harddwch Cwm Taf o safbwynt gwahanol ac ymlwybrwch ar bedwar olwyn trwy 360 erw o dir fferm gwyllt yng Nghanolfan Gweithgareddau a Beic Cwad Dyffryn Taf. Mae'n ffordd llawn cyffro o ddarganfod cefn gwlad Cymru.

Ydych chi ar yr arfordir? Rhowch gynnig ar syrffio neu badlfyrddio ym Mhorthcawl. Diolch i rai o donnau mwyaf cyson y DU, bydd y Ganolfan Chwaraeon Dŵr newydd yn Rest Bay yn gallu darparu gwisg gwlyb a bwrdd ar eich cyfer fel eich bod yn barod i fwrw'r tonnau. I'r rheiny sy'n fwy mentrus, beth am roi cynnig ar arforgampau daearol gydag UWC Atlantic Experience wrth i chi ddarganfod arfordir ac ogofâu ‘Y Deeps yn Aberogwr’?

Cymerwch hoe

Yn ôl ar dir sych, cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Borthcawl i mewn i Fro Morgannwg er mwyn cael blas ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Gyda'i chlogwyni sy'n plymio, bywyd gwyllt bendigedig, a golygfeydd godidog, byddwch yn sylweddoli, mewn fawr o dro, pam mae'r arfordir anhygoel hwn, sydd heb ei ddifetha, yn hollol unigryw.

O'r cyfle i gerdded y llwybr cenedlaethol hwnnw ac un arall fel Llwybr Clawdd Offa – a hyd yn oed mynd am dro bach ar hyd un o'n parciau gwych – mae de Cymru’n baradwys i gerddwyr. Darganfod Blaenau Gwent; mae'n freuddwyd i gerddwyr diolch i'w llwybrau niferus ar hyd trywyddau troellog, a hen lonydd tramiau sy'n arwain yn syth at gopâu mynyddoedd. Rhowch eich esgidiau glaw am eich traed a chymerwch eich amser wrth ddilyn Llwybr Ebbw Fach – 16 cilometr o safleoedd treftadaeth a mannau sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt.

Ydych chi yng Nghasnewydd? Cewch weld pam mae de Cymru ar y map rhyngwladol fel cyrchfan golff o safon. Cynhaliodd Gwesty Hamdden y Celtic Manor y Cwpan Ryder yn 2010, ac nid yw'n gyfrinach fod gan lawer o'n cyrsiau golff rhanbarthol rai o'r golygfeydd gorau yn y DU. Ymhlith y rhain mae cwrs golff Aberpennar sydd â golygfeydd godidog dros Gwm Cynon sy'n ei amgylchynu; cwrs golff Pontypridd, lle ceir fistâu naturiol ble mae boncathod i'w gweld yn hofran dros ffyrdd teg; a'r Royal Porthcawl, a'i lethrau sy'n disgyn tuag at lan y môr.

Dim ond codi awch arnoch y bydd y pedwar hyn yn ei wneud; rydym yn gartref i lawer mwy ohonynt ac mewn lleoliadau at ddant pawb.

Peidiwch ag anghofio ein tagio yn eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol! Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Cynlluniwch eich ymweliad

Edrychwch ar ein tudalen Cynlluniwch eich ymweliad cyn cychwyn ar eich taith a gwiriwch fod y pethau rydych am eu gweld a'u gwneud ar agor. Mae'n bosibl hefyd y bydd yn ofynnol trefnu gweithgareddau ymlaen llaw ar gyfer llawer o leoedd.

Cewch hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth ar ein gwefan, a dewch o hyd i'ch antur yn ne Cymru, yn ddiogel, yn ystod yr hydref hwn drwy lynu at arweiniad Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19.