Skip to the content

Ffôn

03000 252239

Cyfeiriad

Castle Hill
Tongwynlais
Caerdydd
CF15 7JS

Y dref agosaf

5 milltir o Caerdydd

Castell tylwyth teg - tegan i’r cefnog a’r pwerus

Beth sy’n digwydd pan fydd noddwr o gyfoeth diderfyn yn cwrdd â phensaer â dychymyg di-ben-draw? Dyma eich ateb.

Cwyd Castell Coch o goedwigoedd ffawydd hynafol Fforest Fawr fel gweledigaeth o stori dylwyth teg. Ond eto i gyd, dim ond awgrymu’r ysblander y tu mewn y mae’r tyrau mawrion hyn gyda’u toeau conigol unigryw.

A thrydydd Ardalydd Bute wedi rhoi tragwyddol heol i’w ddychymyg, ni ymatalodd y pensaer William Burges o gwbl. Mae’r tu mewn tra addurnedig a dodrefn drudfawr Castell Coch yn ei wneud yn gampwaith disglair o’r oes Fictoraidd Uchel.
Ond nid ffoli egsotig mohono. O dan yr addurniadau ffug-ganoloesol, gallwch olrhain castell trawiadol o’r 13eg ganrif o hyd, a ddefnyddid ar un adeg fel llety hela gan un o Arglwyddi didostur y Mers, Gilbert de Clare.

Mae Castell Coch yn degan i’r cefnog a’r pwerus ers dros 700 mlynedd. Wedi gwario arian mawr arno, ni threuliodd Gilbert de Clare nac Ardalydd Bute lawer o amser yma.

Serch hynny, mae’n weledigaeth wych o fyd canoloesol dychmygus – a’r cyhoedd yn ei ddewis yn rheolaidd yn hoff adeilad iddynt yng Nghymru.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Clyw
Darparu ar Gyfer Grwpiau

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
YouTube
Instagram