Skip to the content

Mae'n gyfnod i brofi hwyl yr ŵyl yn ne Cymru

Yn dilyn blwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen, mae'n amser gosod y goeden, agor y mins peis a darganfod yr hyn sy’n unigryw a Nadoligaidd yn ne Cymru.

Ymlacio a dadflino

Os yw'r wythnosau a misoedd diwethaf wedi gadael i chi deimlo'n fwy blinedig na Nadoligaidd, mae ond yn iawn i chi gymryd seibiant a chanolbwyntio ar eich hun.

Cynlluniwch ymweliad â sba Fusion yng Ngwesty Bryn Meadows yng Nghaerffili a'ch trin chi a'ch anwylyd. Ar hyn o bryd mae gan y gyrchfan amrywiaeth o opsiynau ar gael o benwythnosau sba sy'n cynnwys eich pryd nos felly archebwch ymlaen llaw a rhowch rywbeth i chi'ch hun neu'r rhywun arbennig hwnnw edrych ymlaen ato yn 2021.

Os ydych chi'n dadweindio trwy fynd i siopa, ewch i fwynhau hud y Nadolig a chael ambell fargen yng Nghanolfan Siopa McArthur Glen ym Mhenybont ar Ogwr. P'un a ydych chi'n chwilio am bopeth ar restr dymuniadau Nadolig eich teulu, neu'n chwilio am rywbeth perffaith i roi yn yr hosan, mae hen ddigon o gyfleoedd i gynnal eich lefelau egni gyda mins peis a siocled poeth.

Peidiwch â methu naws marchnad Nadolig yr Almaen yn ardal fwyd a diod alpaidd Stryd y Castell, lle gallwch fwynhau bwyd o dras Bafaria neu gael gafael ar falws melys ac ewch allan i’r pwll tân.

Beth am de prynhawn Nadoligaidd? Mae gan Westy a Sba Parkway y peth i chi. Wedi'i leoli mewn dros saith erw a hanner o erddi, mae'r gwesty preifat hwn yng Nghwmbrân yn lleoliad delfrydol ar gyfer dathlu’r ŵyl. Felly, ymlaciwch yn yr amgylchedd prydferth a mwynhau te prynhawn Cymreig cartref y gwesty.

Ym Mlaenau Gwent, cewch fwynhau te prynhawn mewn ffordd wahanol ar feinciau Nadoligaidd yr Henrison Inn. Mae'r danteithion yn cynnwys ‘candy canes’ a darnau o arian siocled, yn ogystal â ffefrynnau Nadoligaidd fel moch mewn blancedi a mins peis, gan gynnig hyfrydwch Nadoligaidd i’ch temptio. Gellir gweld yr holl opsiynau eraill ar draws de Cymru yma

Siopwch yn lleol a chefnogwch Gymru

Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n bwysig siopa'n lleol a chefnogi cynhyrchwyr Cymru – ac mae hen ddigon o ddewis yn Nhreorci, a enwyd yn enillydd Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain yn 2019. Gyda dros 80% o'i fusnesau'n siopau annibynnol bwtîg, mae Treorci yn cynnig profiad unigryw. Ewch draw i'r cigydd teuluol arobryn CJ Morris, sy'n darparu cynnyrch o'r safon orau gan ffermwyr lleol, neu ewch draw i siop Emily Kate, sef bwtîg cain a steilus lle gallwch brynu ychydig o foethusrwydd.

I'r aelodau o'ch teulu sy'n caru cwrw, nid oes dim byd yn well na basged rodd o Tiny Rebel. Gallwch ddewis o ddetholiad o gwrw gorau Casnewydd neu brynu eich pecyn creu bar eich hun i fwynhau'r profiad gartref.

I fwynhau gwir flas y Nadolig, mae The Marches Delicatessen yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch gyda'i basgedi moethus sy'n llawn danteithion o ar draws Sir Fynwy a'r ardal gyfagos. Neu, beth am ddiod o ddistyllfa gyntaf Sir Fynwy? Mae'r Silver Circle Distillery yn cynnig amrediad eang o wirodydd crefft ac mae ei gyfres o gasgliadau bychain yn set flasu berffaith.

Beth am anrheg gan y Tudor Brewery, sydd wedi ennill sawl wobr? Mae gan enillwyr cystadleuaeth Pencampwr Cwrw Cymru ddetholiad o ddanteithion ar gyfer yr ŵyl, ac maent yn cynnig yr opsiwn o greu eich pecyn amrywiol eich hun i greu rhodd sy’n addas ar gyfer yr yfwyr mwyaf ffwdanus.

Nid yw'n Nadolig heb gaws, a gallwch ddod o hyd i'r anrheg ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n hoff o gaws o’r Blaenavon Cheddar Company. Byddai unrhyw un yn falch o dderbyn eu pedwar opsiwn o gaws (ein hoff un ni yw Cheddar Anadl y Ddraig gyda photel o gwrw Brains SA!).

Wedi anghofio eich anrheg Siôn Corn gyfrinachol? Sicrhewch nad ydych ar y rhestr o bobl ddrwg ac ewch i siopa yn siop 200 Degrees yng Nghaerdydd er mwyn cael gafael ar yr anrheg orau i gonnoisseurs ar goffi. Gadewch iddyn nhw ddewis eu rhost eu hunain gyda thaleb danysgrifio neu, os ydych chi'n teimlo'n hynod o gyfeillgar, gallwch brynu'r set o gwpanau espresso fel anrheg iddynt, sy'n cynnwys bag 250g o ffa espresso Brazillian Love Affair y cwmni.

Gall Caerffili fodloni eich anghenion siopa Nadolig i gyd dros yr ŵyl hon, diolch i'r dewis anhygoel o siopau annibynnol unigryw ac enwau mawr sy'n addurno'r stryd fawr leol a'r ardaloedd cyfagos. O ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i ddydd Iau 24 Rhagfyr, gallwch ddisgwyl ystod eang o gynigion arbennig unigryw gan fusnesau lleol. Gallwch ddysgu mwy yma.

Yn y cyfamser, mae sir Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn orlawn o siopau annibynnol, gan gynnwys Crochendy Ewenni, y crochendy hynaf yng Nghymru, lle mae modd comisiynu eich anrheg unigryw eich hun i'ch anwyliaid, o fasau a jygiau i blatiau i ganwyllbrennau a chrochenwaith. Addurniadau unigryw ydynt a fydd yn cael eu trysori am oes, a thrwy wneud hynny, byddwch yn cefnogi busnes sydd wedi bod yn yr un teulu ers dros wyth cenhedlaeth.

Rhowch anrheg fel dim un arall

Beth ydych chi'n prynu i'r unigolyn sydd â phopeth? Y Nadolig hwn, rhowch anrheg iddynt sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r cyffredin. Anghofiwch y sanau a'r cynnyrch sebon a rhowch brofiad bythgofiadwy iddynt.

Os ydych chi'n chwilio am gyffro sy'n llawn adrenalin, ewch draw i BikePark Cymru, y parc beicio mynydd cyntaf ar raddfa lawn yn y DU yng nghanol cymoedd De Cymru. Gallwch lanw cerdyn rhodd gyda'r swm o'ch dewis a bydd y derbynnydd lwcus yn gallu dewis o ystod eang o gyrsiau ar gyfer dechreuwyr i feicwyr mwy profiadol neu hyd yn oed derbyn hyfforddiant personol.

Am rodd fydd yn rhoi atgofion melys am byth, dewisiwch daleb antur a phrofiad anhygoel yn Zip World. Gyda chynlluniau i agor yn 2021, bydd y Phoenix Zip Line yng Nghwm Cynon yn anrheg na ellir rhagori arni ac yn rhoi rhywbeth iddynt edrych ymlaen ato.

Mae canolfan antur Rock UK Summit Centre ym Merthyr Tudful yn lle perffaith ar gyfer y teulu cyfan. Oeddech chi'n gwybod bod gan ei ganolfan antur rai o'r waliau dringo uchaf dan do yn Ne Cymru? Yn ymestyn 18 metr gyda bargodiad aruthrol o 8 metr, dyma anrheg a fydd yn sicr yn eich gwneud yn boblogaidd ar Ddydd Nadolig.

Os ydych am roi'r anrheg o antur, gallwch ddod o hyd i rywbeth i edrych ymlaen ato yn 2021 diolch i Bushcraft Adventures, lle gallwch ddewis gweithgareddau fel taflu bwyeill, saethyddiaeth neu fyw yn y gwyllt!

Os oes gennych ddarpar Tiger Woods yn eich teulu, beth am roi'r profiad o chwarae golff ar gwrs arobryn y Celtic Manor yn eich basged? Bydd ganddynt ddetholiad o brofiadau i ddewis ohonynt, o ddilyn yn ôl troed rhai o gewri'r Cwpan Ryder i wella eu perfformiad gyda chymorth un o chwaraewyr proffesiynol y PGA.

Oes aelod o'ch teulu gydag obsesiwn am Bake Off? Rhowch daleb iddynt ar gyfer Siop Fara y Fenni lle gallen nhw fwynhau diwrnod o goginio mewn cegin draddodiadol ffermdy. Mae'n cynnwys cinio gyda gwin a lluniaeth (a byrbryd am un ar ddeg) a byddant hyd yn oed yn gallu mynd adref gyda bag mawr o'u bara wedi'i bobi'n ffres. Nefoedd ar y Ddaear!

Gwirodydd (a gwinoedd) Nadoligaidd

Nid oes rhaid teithio i dde Ffrainc i flasu gwin da, gallwch ymweld ag un o'r nifer o safleoedd yma yn Ne Cymru. Gwinllan Glyndŵr ym Mro Morgannwg yw’r winllan sefydledig fwyaf a hynaf yng Nghymru. Prynwch daleb rhodd ar gyfer cinio a thaith, neu hyd yn oed penwythnos i ffwrdd er mwyn magu nerth newydd.

Ymhlith y gwinllannoedd eraill yn Ne Cymru y gallwch ddewis ohonynt mae White Castle Vineyard, Sugar Loaf Vineyards, Ancre Hill Vineyard, Gwinllan Llannerch a Parva Farm Vineyard.

Fodd bynnag, os yw wisgi yw eich diod o ddewis, gallwch flasu'r un gorau o Gymru yn Nistyllfa Penderyn yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r profiad cwbl ryngweithiol hwn yn cynnig golwg fanwl ar y broses o greu'r Wisgi Brag Sengl Cymreig arobryn gan ddefnyddio cyflenwad y safle ei hun o ddŵr ffynnon ffres naturiol. Mae bellach yn cael ei werthu ledled y byd!

Jin-gle bells, Jin-gle bells! Yng nghanol cefn gwlad hyfryd Bro Morgannwg mae Distyllfa Castell Hensol. Mae'r cyfuniad o Gastell Hensol, sy'n llawn o hanes, â bywiogrwydd modern a hwyl distyllu jin yn creu profiad gwirioneddol unigryw.

Ar ôl darllen am yr holl opsiynau sydd ar gael yn ne Cymru, efallai bydd angen i chi orwedd i lawr. Mae'r Hilton yng Nghaerdydd yn cynnig nifer o dalebau rhodd moethus; gallwch naill ai lenwi taleb rhodd gyda swm o'ch dewis neu, am brofiad ychydig yn fwy personol, prynwch frecinio diddiwedd i ddau ym mwyty arobryn Grey's.

Chwilio am rywle mwy unigryw i aros? Anghofiwch am y babell ac ewch am noson i ffwrdd yng Nghoedwig Cwm-carn. Gallwch ddewis rhwng pod glampio neu gaban moethus, fel bod rhywbeth i chi a'ch anwylyd edrych ymlaen ato yn 2021. 

Gobeithiwn fod hyn wedi rhoi blas i chi o sut gallwch chi siopa'n lleol a chefnogi siopau annibynnol y Nadolig hwn. Cymerwch gipolwg ar ein gwefan am ragor o opsiynau a pheidiwch ag anghofio i ddilyn ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf o ran yr hyn sydd ar gael yn ne Cymru.

Cynlluniwch eich ymweliad

Edrychwch ar ein tudalen Cynlluniwch eich ymweliad cyn cychwyn ar eich taith a gwiriwch fod y pethau rydych am eu gweld a'u gwneud ar agor. Mae'n bosibl hefyd y bydd yn ofynnol trefnu gweithgareddau ymlaen llaw ar gyfer llawer o leoedd.

Cewch hyd yn oed fwy o ysbrydoliaeth ar ein gwefan, a dewch o hyd i'ch antur yn ne Cymru, yn ddiogel, yn ystod yr hydref hwn drwy lynu at arweiniad Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19.