Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Gwefan
Cyfeiriad
Ponsticill
Merthyr Tudful
Merthyr Tydfil
CF48 2AU
Y dref agosaf
5 milltir o Merthyr Tudful
Wedi ei leoli oddi fewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, dyma leoliad grêt i’r rheini sy’n chwilio am weithgareddau awyr agored mewn amgylchedd heddychlon.
Yn swatio ym mhentref Pontsticill a chyfagos â chartref y perchennog, mae dodrefn cyfforddus yn y llety gwyliau hwn ac mae’n mwynhau golygfeydd prydferth ar draws y dyffryn.
Rheilffordd Fynydd Aberhonddu, dau gwrs golff 18 twll, cerdded neu seiclo ar hyd llwybr poblogaidd Taith Taf i gyd ar gael yn lleol. 3 milltir i ffwrdd mae BikePark Wales, sy’n barc beicio mynydd maint llawn. Cyfle i wylio adar o’r ardd â’r Barcud Coch yn hedfan uwch ben. Mae canolfan awyr agored Dolygaer gerllaw sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau fel canŵio a rafftio dŵr gwyn. Siop 1 milltir, tafarn 200 llath.