Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Ffôn
E-bost
Gwefan
Cyfeiriad
Byncws Tŷ Wern
Ty Wern
Caerwern
Merthyr Tudful
CF48 1AE
Y dref agosaf
1 milltir o Merthyr Tudful
Mae Byncws Tŷ Wern yng nghalon cymoedd De Cymru. Mae’r llety wedi ei leoli ar Daith Taf sy’n adnabyddus fel llwybr seiclo ym Merthyr Tudful. Rydym ni union gyferbyn â Chlwb Rygbi Merthyr a adnabyddir fel Ironmen hefyd.
Wedi ei leoli tua 2 filltir o Bike Park Wales neu 5 munud ar feic, a thua 8 milltir o Ben y Fan a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Rheilffordd Mynydd Aberhonddu tua 1 milltir i ffwrdd ac rydym o fewn pellter cerdded i Gastell Cyfarthfa, sy’n dyddio o 2824, Parc Manwerthu Cyfarthfa, Parc Hamdden Rhydycar a gorsaf fysiau a threnau Merthyr Tudful. Mae Caerdydd, ein prifddinas yn daith yrru o ryw 30 munud ar hyd yr A470.
Mae lle i 10 gysgu yn Llety Byncws Ty Wern ac mae’n cynnwys y canlynol:
Ystafell Fyw a Soffa-gwely maint Brenin
Man cysgu â 3 set o welyau bync sengl
Ystafell wely â gwely dwbl a chot
2 ystafell gawod
Mwynderau:
Defnydd am ddim o WiFi a theledu lloeren sgrin wastad
Cyfleusterau gwneud te/coffi
Mynediad i’r anabl
Man barbeciw a phatio awyr agored
Parcio preifat ar y safle gan gynnwys CCTV
Cloi diogel
Haearn a bwrdd smwddio ar ofyn
Tywelion a dillad gwely
Oergell a Rhewgell
Hob anwytho a microdon
Pice ar y maen am ddim
Dyma encil delfrydol i ymwelwyr fwynhau mynd am dro, seiclo, heicio, pysgota, canŵio a gweithgareddau antur. Perffaith i deuluoedd neu grwpiau dreulio amser o ansawdd gyda’i gilydd. Archebwch le i aros am o leiaf 2 noson.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes, ac eithrio cŵn tywys.
Cyfleusterau
- Wifi
- Parcio
- Archebion Grŵp
- Cerdded
- Beicwyr