Skip to the content

Ffôn

07565321696

Cyfeiriad

41 Stryd Eos
Abercanid
Merthyr Tudful
CF48 1DX

Y dref agosaf

2 milltir o Merthyr Tudful

Mae'r bwthyn glowyr yma sydd newydd ei hadnewyddu yn gartref hunangynhwysol sy'n cynnwys 3 ystafell wely, ystafell ymolchi a chegin modern ac ymarferol gydag ystafell fyw / fwyta fawr gyda llawer o olau. Rydym wedi ei adeiladu coffr i chi gadw'ch pethau gwerthfawr yn ddiogel. Mae'r ardd yn cynnwys 6 man parcio ar gyfer beiciau sy'n cynnwys cloeon yn ogystal â lle i eistedd gyda barbeciw hefyd.

Nawr gyda rhyngrwyd wifr Sky!

Fe'i lleolir ym mhentref bach tawel Abercanaid, gyda mynediad hawdd I lwybr Taith y Taf a'r A470. Mae gan siop y pentref digon o stoc, 3 tafarn gydag un sy'n cynnig bwyd, ac os na fyddant yn cymryd eich ffansi, mae Table Table ar draws yr afon ynghyd â’r Cooperative a llawer mwy. Mae'r bwthyn wedi ei leoli yn agos i Ferthyr Tudful, a oedd unwaith yn Brifddinas Haearn y byd. Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, llai na awr lawr yr heol. Pwynt arall i'w sylwi ynglŷn â'r lleoliad yw'r pellter i Barc Beic Cymru sydd â miloedd o ymwelwyr o bob cwr o'r byd!

Cyfleusterau
  • Wifi
  • Parcio
  • Hygyrch
  • Archebion Grŵp
  • Cerdded
  • Beicwyr
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook