Skip to the content

Y dref agosaf

0 milltir o Merthyr Tudful

Pentref Hamdden Merthyr Tudful yw’r prif leoliad ar gyfer hamdden yng Nghymoedd De Cymru. Mae’r safle, a ddatblygwyd dros 100,000 troedfedd sgwâr yn cynnig y gorau o ran cyfleusterau chwaraeon a hamdden, saith niwrnod yr wythnos, ac wedi ei leoli mewn man cyfleus oddi ar yr A470 neu bum munud o’r orsaf drên.

Canolbwynt y lleoliad yw Canolfan Hamdden Merthyr Tudful. Mae’r cyfleuster hwn sydd o’r radd flaenaf yn cynnig cyfle am amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae’r pwll nofio maint cystadlu ynddo yn rhannol lanedig ar gyfer y rheini sy’n cymryd chwaraeon y dŵr o ddifri a hefyd, ceir pwll i ddysgwyr a sleid cafn ar gyfer y rheini sydd am gael hwyl yn sblasio.

Mae’r cyfleustra hefyd yn cynnig ystafell ffitrwydd wedi ei hawyru ac ystafell codi pwysau ar wahân ac ardal baffio. Os oes mwy o ddiddordeb gennych mewn chwaraeon cystadleuol, ceir tri chwrt sboncen â wal gefn wydr a chyfleoedd ar gyfer pêl-droed pump bob ochr, badminton a thenis yn y brif neuadd.

Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i stiwdio ddawns ac yn cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau o sbinio, aerobigs, bale a chrefft ymladd. Os ydych am ymlacio yna beth am roi cynnig ar yr ystafell iechyd sy’n cynnig sawna, ystafell stêm, pwll sba ac ardal ymlacio cyn mwynhau byrbryd yng nghaffi’r ganolfan.

Y tu allan i’r Ganolfan Hamdden, mae’r lle gorau i wylio’r ffilmiau mawr diweddaraf yn sinema wyth sgrin Vue Cinema. Mae gan bob awditoriwm y taflunyddion digidol diweddaraf, Sain Amgylchynol Dolby Digital a’r modd o drochi’n llwyr mewn 3D digidol. Yn achlysurol, mae’r sinema’n cynnig dangosiadau arbennig fel cynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol a phrif ddigwyddiadau chwaraeon. 

Ceri nifer o gadwyni tŷ bwyta enwog yn gweithredu yn y Pentref Hamdden sy’n cynnig amrywiaeth o ddewis i gadw pawb yn hapus a darparu amgylchedd croesawgar i giniawa fel teulu neu noson fawr allan.

Daw hyn i gyd â pharcio am ddim a mynediad llwyr i gadeiriau olwyn.