Skip to the content

Ffôn

01685 848309

Cyfeiriad

Canolfan Awyr Agored Parkwood
Dolygaer
Pontsticill
Merthyr Tudful
CF48 2UR

Y dref agosaf

7 milltir o Merthyr Tudful

Mae Canolfan Awyr Agored Parkwood, Dolygaer yn ganolfan weithgareddau sydd wedi ei lleoli yn ne Bannau Brycheiniog, 15 munud o daith mewn car o ganol Merthyr Tudful. Mae’r ganolfan yn cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau sy’n cael eu darparu gan hyfforddwyr arbenigol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys hwylio, antur ceunant, canŵio, ceufadu, dringo creigiau, ogofa, cyfeiriannu a mwy ac mae opsiynau ar gael ar gyfer pob oed a gallu.

Mae angen gweld y golygfeydd er mwyn sylweddoli pa mor fendigedig yw’r golygfeydd dros y llyn, yr afon a’r mynyddoedd a ellir eu gweld o’r safle. Mae gennym hefyd sawl opsiwn llety 3 a 4 seren sy’n addas ar gyfer pawb gan gynnwys gwersyll pebyll, Porthdy Dolygaer a Bwthyn Dolygaer sy’n cynnwys cyfleusterau moethus sy’n caniatáu i westeion ymlacio ar ôl diwrnod o weithgaredd. Bydd staff croesawgar ac sydd wedi cael eu cymhwyso’n llawn yn sicrhau bod eich ymweliad yn un i’w fwynhau, yn ddiogel ac yn un i’w gofio.