Skip to the content

Ffôn

03000 252239

Cyfeiriad

Tyndyrn
Cas-gwent
Sir Fynwy
NP16 6SE

Y dref agosaf

1 milltir o Tyndyrn

Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol – ac yn dal i sefyll yn ei ysblander di-do ar lannau Afon Gwy, a hynny bron i 500 mlynedd ers ei gwymp trasig oddi wrth ras.

Fe'i sefydlwyd ym 1131 gan fynachod Sistersaidd, oedd yn hapus i fodloni ar adeiladau pren ar y dechrau. Roedd yr Abad Henry, lleidr diwygiedig, yn fwy enwog am ei arfer o wylo wrth yr allor nag am ei uchelgais bensaernïol.

Codwyd eglwys seml o garreg a chlasau yn ddiweddarach. Ond wedyn, diolch i nawdd arglwyddi cyfoethog y Mers, dechreuodd y mynachod yn eu gynau gwynion anelu’n uwch.
Yn 1269 aethpwyd ati i adeiladu eglwys abadol newydd a ddaethon nhw ddim i ben nes creu un o gampweithiau pensaernïaeth Gothig Prydain. Mae'r ffrynt gorllewinol gwych gyda'i ffenestr saith lansed a bwâu esgynnol corff yr eglwys yn dal i syfrdanu rhywun.

Roedd y mynachod mor ddiolchgar i'w noddwr pwerus, Roger Bigod, fel eu bod yn dal i rannu elusen ar ei ran yn 1535. Ond erbyn hynny roedd Diwygiad Brenin Harri VIII yn Lloegr wedi hen ddechrau.

Flwyddyn yn ddiweddarach yn unig, ildiodd Tyndyrn yn rownd gyntaf diddymiad y mynachlogydd –ac o dipyn i beth dechreuodd yr abaty mawr droi'n adfail mawreddog.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Hygyrchedd
Cyfleusterau Symudedd
Cyfleusterau Clyw
Darparu ar Gyfer Grwpiau
Croeso i Anifeiliaid Anwes

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
YouTube
Instagram