Skip to the content

Ffôn

03000 252239

Cyfeiriad

Canol y Dref
Cas-gwent
Sir Fynwy
NP16 5EY

Y dref agosaf

2 milltir o Cas-gwent

Mae Castell Cas-gwent, a gadwyd mewn cyflwr hardd, yn ymestyn allan ar hyd clogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy megis gwers hanes o gerrig.

Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i weld sut esblygodd cestyll yn raddol i ymdopi ag arfau mwyfwy dinistriol – ac uchelgeisiau mawreddog eu perchenogion. Am fwy na chwe chanrif, roedd Cas-gwent yn gartref i rai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y canol oesoedd ac oes y Tuduriaid.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu ym 1067 gan Iarll William fitz Osbern, cyfaill agos i Gwilym Goncwerwr, gan ei wneud yn un o’r cadarnleoedd Normanaidd cyntaf yng Nghymru. Fesul un, gadawodd William Marshal (Iarll Penfro), Roger Bigod (Iarll Norfolk) a Charles Somerset (Iarll Caerwrangon) oll eu hôl cyn i’r castell ddirywio ar ôl y Rhyfel Cartref.

Byddai’r pendefigion a’r broceriaid pŵer hyn ar fynd o hyd. Dim ond un breswylfa yn eu hystadau helaeth oedd Cas-gwent– cragen drawiadol lle byddent yn dod â’u llestri aur ac arian, eu sidan gwych a’u dodrefn lliwgar.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Hygyrchedd
Cyfleusterau Symudedd
Cyfleusterau Clyw
Darparu ar Gyfer Grwpiau

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
YouTube
Instagram