Skip to the content

Ffôn

02920 593328

Cyfeiriad

Vale of Glamorgan
Wales
CF5 6FZ

Y dref agosaf

6 milltir o Caerdydd

Yn hafan heddychlon ar gyrion Caerdydd, cewch ddarganfod rhywbeth newydd ar bob ymweliad â Dyffryn, o ardd-ystafelloedd cain thematig i lawntiau ffurfiol eang, gerddi cegin cynhyrchiol a gardd goed fawr. Mae’r gerddi’n gartref i nifer o wahanol arddulliau wedi’u hysbrydoli gan wledydd o bedwar ban byd, o ddylanwad Eidalaidd amlwg yr Ardd Bompeiaidd i blanhigion trofannol yr Ardd Egsotig. Gyda chaffi, siop a siop lyfrau ail-law, mae llawer i'w weld a’i wneud ar ymweliad â Gerddi Dyffryn.

Mae gennym ni faes parcio am ddim gyda hyb gwefru cerbydau trydan. Rydyn ni hefyd yn croesawu ymweliadau grŵp wedi'u trefnu ymlaen llaw ac yn cynnig parcio i fysiau mini a choetsys. Rydyn ni’n safle hygyrch i raddau helaeth gyda pharcio i ddeiliaid bathodyn glas, toiledau hygyrch wedi’u lleoli ar bellterau rheolaidd oddi wrth ei gilydd, a llwybrau heb risiau o amgylch y gerddi. Mae gennym ni sgwter symudedd a chadeiriau olwyn ar gael i'w llogi (yn rhad ac am ddim) – rydyn ni’n argymell archebu'r rhain ymlaen llaw i wneud yn siŵr eu bod nhw ar gael. Mae bygi sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr hefyd ar gael yn aml i gludo ymwelwyr o gwmpas y gerddi. Mae Dyffryn yn safle dysgu Cymraeg sy'n golygu bod gennym ni rai aelodau o staff sy’n siaradwyr rhugl, ond mae llawer o staff yn ddysgwyr brwdfrydig ac yn mwynhau siarad Cymraeg pan ddaw'r cyfle. Mae ein holl arwyddion a deunyddiau marchnata, ar ac oddi ar y safle, yn ddwyieithog. Cymraeg a Saesneg yw'r unig ieithoedd rydyn ni’n gweithredu ynddynt.
Rydyn ni’n derbyn ymweliadau grŵp wedi'u trefnu ymlaen llaw ac mae grwpiau o 15 neu fwy yn gymwys i ostyngiad ar y tâl mynediad. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael mynediad am ddim gyda’u cerdyn aelodaeth. I fod yn gymwys ar gyfer gostyngiad grŵp, rhaid i’r grŵp fod yn 15 neu fwy (yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu beidio), archebu ymlaen llaw a thalu mewn un tro. E-bostiwch dyffryn@nationaltrust.org.uk i ofyn am becyn archebu grŵp.
Mae'r gerddi ar agor 363 diwrnod y flwyddyn (ar gau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan yn unig) ac yn agor am 10am bob dydd. Mae'r amseroedd cau yn amrywio yn dibynnu ar y tymor – i weld yr oriau agor ar hyn o bryd ewch i wefan Gerddi Dyffryn. Ar gyfer ymweliadau arferol (heb gynnwys grwpiau neu ddigwyddiadau arbennig) nid oes system archebu ymlaen llaw, fodd bynnag, rydyn ni’n cynnal digwyddiadau fel teithiau tymhorol o’r gerddi a llwybrau i blant yn aml – mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer rhai o'r digwyddiadau hyn ond nid y rhan fwyaf. Gweler yr adran digwyddiadau ar ein gwefan am ddigwyddiadau presennol a digwyddiadau sydd i ddod.

Datblygodd y gerddi rhestredig Gradd I hyn yn sgil partneriaeth rhwng y cynllunydd gerddi enwog, Thomas Mawson, a’r garddwriaethwr brwd a’r perchennog, Reginald Cory. Drwy ein dull o adfer y gerddi heddiw, rydym yn adeiladu ar ysbryd Mawson a Cory o draddodiad ac arbrofi. Nid ail-gread hanesyddol unfath yw’r nod – yn hytrach, rydym yn ceisio rhoi’r gwreiddiau Edwardaidd hanesyddol wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol o wneud i’r lleoliad weithio ar gyfer y dyfodol, fel garddio gyda bioamrywiaeth a newid hinsawdd mewn golwg.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Hygyrchedd
Cyfleusterau Symudedd
Cyfleusterau Clyw
Darparu ar Gyfer Grwpiau
Croeso i Anifeiliaid Anwes

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
Instagram