Skip to the content

Cyfeiriad

Ogwr
Sant-y-Brid
Bro Morgannwg
CF32 0QP

Y dref agosaf

7 milltir o Llanilltud Fawr

Uwchben man croesi afon darluniadwy, lle mae cyfres o gerrig sarn hynafol o hyd, mae Ogwr (ynghyd â Choety a’r Castellnewydd) yn rhan o driawd o gaerau a adeiladwyd i warchod Morgannwg rhag ymosodiadau o’r gorllewin a oedd ym meddiant y Cymry. A’r castell yn wreiddiol o bridd a phren tua dechrau’r 12fed ganrif, buan y cafodd ei atgyfnerthu â cherrig cyn cael ei gryfhau ymhellach â murlen tua dechrau’r 13eg ganrif.
Yn anarferol, nid yw’r ychwanegiadau diweddarach wedi cuddio nodweddion amddiffynnol cynharaf y castell, am fod y cloddiau a’r ffosydd a adeiladwyd adeg geni Ogwr yn glir yn y golwg o hyd. Un nodwedd wreiddiol arall yw’r ffos ddofn o gwmpas y cwrt mewnol, wedi’i dylunio i lenwi â dŵr môr adeg penllanw.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Croeso i Anifeiliaid Anwes

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
YouTube
Instagram