Skip to the content

Ffôn

01443 682036

Cyfeiriad

Lewis Merthyr Colliery
Coed Cae Road
Trehafod
Rhondda Cynon Taf
CF37 2NP

Y dref agosaf

2 milltir o Pontypridd

Ewch am daith gyda'n tywyswyr, sydd i gyd yn gyn-lowyr. Does neb yn gwybod mwy am y diwydiant glo na nhw!

Mae Taith yr Aur Du yn eich arwain chi drwy Dai Weindio Trefor a Bertie, sydd newydd gael eu hadnewyddu, ac i mewn i'r ystafell lampau gwreiddiol er mwyn casglu'ch helmed ar gyfer eich taith danddaearol. Gallwch chi bron â chlywed adlais y glowyr ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod gwaith.

Dram - Y Profiad Sinematig.
Ewch ar daith rithwir ar y dram olaf o lo wrth iddi ymlwybro tua'r wyneb. Cadwch lygad barcud am ambell i beth annisgwyl ar hyd y ffordd! Synnwch ar gyrn simnai'r gorffennol sy'n bwrw cysgod ar y parc, ynghyd â'r Olwyn Pen Pwll â'r Offer Weindio gwreiddiol. Ewch i ymweld â'r adeiladau o ddiwedd yr 1800au, Tŷ'r Wyntyll a'r ddau Dŷ Weindio. Dewch â'r plant i chwarae yn y Parth Ynni tymhorol.

Cofiwch ddiweddu eich taith drwy ymweld â Chaffi Bracchi - sydd ar agor o 9.00 am i 4.30 pm bob dydd - a'r Siop Anrhegion Cymreig.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Hygyrchedd
Cyfleusterau Symudedd
Cyfleusterau Busnes
Darparu ar Gyfer Grwpiau
Croeso i Anifeiliaid Anwes