Skip to the content

Ffôn

01685 727371

Cyfeiriad

Parc Cyfarthfa
Heol Aberhonddu
Merthyr Tudful
CF47 8RE

Y dref agosaf

2 milltir o Merthyr Tudful

Parc Cyfarthfa sydd wedi ei gofrestru fel safle rhestredig Gradd II* yw un o’r atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Mae’r parc ar lecyn 65 erw ac mewn man amlwg uwchlaw tref Merthyr Tudful a safle hanesyddol Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Mae’r parc hefyd yn darparu cefnlen hardd i Gastell Cyfarthfa sydd wedi ei gofrestru fel safle rhestredig Gradd I ac a oedd ar un adeg yn gartref i deulu enwog teulu’r Crawshay. Mae’n cael ei adnabod fel yr enghraifft orau o gartref sydd wedi goroesi ac a oedd yn perthyn i un o Feistri Haearn y 19eg ganrif yn Ne Cymru. 

Trwy gydol y flwyddyn, mae Parc Cyfarthfa’n cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau; o gyngherddau mawreddog ac arddangosfeydd tân gwyllt i arddangosfeydd crefftau, rasys hwyl a digwyddiadau er mwyn codi arian. 

Oddi fewn i’r Parc, Canolfan Cyfarthfa a Chanolfan Dreftadaeth Bothy yw’r datblygiadau diweddaraf ac maent yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod hygyrch a chyfleusterau ar gyfer lluniaeth. Addas ar gyfer grwpiau, cyfarfodydd, cynadleddau a dathliadau. Gellir archebu drwy gysylltu â’r Amgueddfa. 

Pad Sblasio'r Parth Heini a’r Ardal Chwarae 

Mae’r Parth Heini yn le gwych sy’n cynnig Pad Sblasio ac Ardal Chwarae y gall ein hymwelwyr ifanc eu mwynhau.

Mae’r ‘Pad Sblasio’ modern hwn yn adnodd chwarae rhyngweithiol yn y Parc ac mae’n siŵr o ddarparu oriau o hwyl ar gyfer y teulu. Wedi’i leoli’n ddelfrydol ger Gaffi Canolfan Cyfarthfa, mae’r ‘Pad Sblasio’n’ hybu chwarae diogel mewn dŵr ar gyfer plant o bob oed a gallu - amseroedd agor tymhorol. Mae’r ardal chwarae sydd wrth ymyl yn cynnig hwyl trwy’r flwyddyn ac yn cynnwys siglenni, fframiau dringo a llithrennau.

Y Rheilffordd Fan

Mae Trên Stêm Cymdeithas Beirianyddol y Rheilffordd fân a’r Cwmni Rheilffordd fân yn darparu adloniant gwych i’r teulu ym Mharc Cyfarthfa.  Lleolir ger prydferthwch Llyn Cyfarthfa ac mae’r teithiau sy’n llawn hwyl yn rhedeg trwy’r flwyddyn. Bydd teithiau thematig yn cael eu hysbysebu’n rheolaidd.