Skip to the content

Ffôn

01685 727371

Cyfeiriad

Parc Cyfarthfa
Heol Aberhonddu
Merthyr Tudful
CF47 8RE

Y dref agosaf

2 milltir o Merthyr Tudful

Comisiynwyd ac adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn 1824-25 ar gyfer y Meistr Haearn,’ William Crawshay II, sef un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ar y pryd yng Nghymru. Mae’n awr yn gartref i Amgueddfa ac Oriel Gelf boblogaidd sydd ar agor i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.  Gall ymwelwyr fwynhau rhaglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd neu archwilio’r Amgueddfa sy’n brawf o ysbryd y dyn gweithiol, ysbryd Merthyr a’r stori sy’n sicrhau lle pwysig i Ferthyr yn hanes Cymru a Phrydain gyfan. Mae lluniaeth ar gael yn Ystafelloedd Te Cyfarthfa sydd yn y Castell.  

Arferai’r plasty castellog, mawreddog hwn edrych dros ei weithfeydd haearn llwyddiannus ac mae’n cael ei adnabod fel “cofadail mwyaf trawiadol yr Oes Haearn Diwydiannol yn Ne Cymru.” Yn 1910, cafodd ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a heddiw, mae’n gartref i arteffactau sy’n cysylltu Merthyr Tudful â’r gorffennol - yn amrywio o gasgliad o waith celf unigryw i chwiban stêm cyntaf y byd.  

Mae Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn cynnwys teithiau sain, tywys mewn nifer o wahanol ieithoedd a gall ddarparu ar gyfer grwpiau tywys/grwpiau unigol os ofynnir am hynny o flaen llaw. Mae yma hefyd Ystafell De boblogaidd ac mae amrywiaeth o fwydydd cartref a diodydd ar gael trwy gydol y flwyddyn.