Skip to the content

Ffôn

01633 422518

Cyfeiriad

High Street
Caerllion
NP18 1AE

Y dref agosaf

0 milltir o Caerllion

Bywyd moethus a gwaedlyd y gaer Rufeinig.

Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru’r ganrif gyntaf. Pan na fyddai wedi’i gau yn ei farics neu’n goddef cyfarth canwriad, byddai allan yn mentro ei fywyd mewn ysgarmesau â Brythoniaid hynafol.

Ond yma yn Isca, un o dair lleng-gaer barhaol yn unig ym Mhrydain, gwnaethpwyd iawn am hyn oll. Gallai’r llengfilwr bob amser dreulio amser gyda’i ffrindiau ym maddonau’r gaer – neu fynd am dro i’r amffitheatr i wylio’r gladiatoriaid.
Mewn adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch archwilio olion y pwll nofio awyr agored, neu natatio eang, a arferai ddal mwy na 80,000 galwyn o ddŵr.

Yn sgil rhyfeddodau taflunio ffilm, cewch gipolwg ar filwr Rhufeinig yn dal i blymio i’r dyfnderoedd heddiw.

Cewch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle cysgai’r dynion a lle cadwent eu harfau – yr unig farics llengol Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.

A gallwch gerdded drwy fynedfa fawr y gogledd i’r amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu mwstwr 6,000 o bobl yn udo am waed.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Symudedd
Cyfleusterau Clyw
Darparu ar Gyfer Grwpiau