Skip to the content

Ffôn

03000 252239

Cyfeiriad

Stryd y Gogledd
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RN

Y dref agosaf

0 milltir o Blaenafon

Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.

O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio a bytheirio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang. Haearn o Gymru roddodd fod i injans, offer a pheiriannau arloesol. Cododd bontydd, llongau a rheilffyrdd. Yn fyr, lluniodd y byd modern.

Yn 1789 aeth Gwaith Haearn Blaenafon ati am y tro cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr.

Ganrif yn ddiweddarach, yn y fan hon y trawsnewidiodd Sidney Gilchrist Thomas ddiwydiant dur y byd trwy ddyfeisio ffordd i dynnu ffosfforws o fwyn haearn.
Mae'r ffwrneisi adfeiliedig i'w gweld hyd heddiw gerllaw olion trawiadol y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr a godai wagenni i'r awyr i uchder o 80 troedfedd.
Roedd Blaenafon yn cael ei redeg gan ddiwydianwyr mawr, didostur yn aml. Ond byddai’r lle wedi bod yn werth dim heb ei weithwyr.

Ewch i archwilio’u bythynnod a ddodrefnwyd yn ddilys a ‘siop y gwaith’ sydd wedi’i ail-greu lle’r oedden nhw’n gwario’u cyflogau prin.

Mae eu stori, sy’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng dehongliad arloesol, wrth wraidd tirwedd ddiwydiannol sydd mor gwbl unigryw fel ei bod wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Darparu ar Gyfer Grwpiau
Croeso i Anifeiliaid Anwes