Skip to the content

Ffôn

01446 774113

Cyfeiriad

Estate Office
The Lodge
Llwynhelig
Y Bontfaen
CF717FF

Y dref agosaf

2 milltir o Y Bont-faen

Yn edrych dros Fro’r Ddawan, mae Forage Farm Shop & Kitchen wedi ei lleoli ar Ystad Fferm Penllyn yng nghalon Bro Morgannwg, ger yr A48 ar bwys y Bontfaen. Ers ei sefydlu yn 2020, mae’r siop fferm a’r bwyty yn arbenigo yn bennaf mewn cynnyrch Cymreig o safon uchel, gyda llawer ohono yn dod o’r fferm a gan gyflenwyr lleol. Yn ogystal â siop fferm a bwyty mawr, mae Forage hefyd gyda chwaraefa i blant a lle awyr agored eang.

Gall ymwelwyr bori ar silffoedd sy’n llawn gyda pob math o eitemau blasus, gan gynnwys llysiau o’r fferm, teisennau wedi’u pobi yn ffres, wyau buarth a diodydd alcoholig artisan. Mae cownter y cigydd yn stocio cig wedi ei fagu ar y fferm gyda tîm profiadol croesawgar sy’n hapus i ateb unrhyw ymholiadau a gwneud argymhellion.
Mae’r bwyty’n dod a’r cysyniad o’r “fferm i’r fforc” yn fyw. Mae ein cogyddion talentog yn defnyddio cynhwysion tymhorol o ffynonellau lleol i greu prydoedd blasus iawn. Ar agor i frecwast ac i ginio, yn ogystal â choffi a theisennau, Forage yw’r lle perffaith i gwrdd â ffrind neu i fwynhau bwyd blasus mewn lleoliad hardd.

Ein oriau agor yw 8:30yb – 5:30yp, Dydd Llun i ddydd Sadwrn, a 9:30yb – 4:30yp ar ddydd Sul. Mae brecwast ar gael 8:30yb tan 12yp i fwyta i mewn neu cludfwyd, gyda chinio o 12yp – 3yp. Mae coffi a theisennau ar gael drwy’r dydd.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Cyfleusterau Hygyrchedd
Darparu ar Gyfer Grwpiau

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
Instagram