Skip to the content

Ffôn

03000 252239

Cyfeiriad

Castle St
Caerffili
CF83 1JD

Y dref agosaf

0 milltir o Caerffili

Arswyd rhag tywysog Cymru wedi ysbrydoli castell canoloesol grymusaf Cymru

Ni adeiladodd Llywelyn ap Gruffudd Gastell Caerffili. A dweud y gwir, ceisiodd ei ddymchwel ddwywaith cyn iddo gael ei gwblhau. Ond ef, yn sicr, a’i hysbrydolodd.

Yn sgil esgyniad nerthol Dywysog Cymru, argyhoeddwyd Arglwydd y Mers, Gilbert de Clare, fod angen caer arno a honno ar frys. Ac roedd yn well iddi fod yn gwbl aruthrol.

Felly o 1268 adeiladodd de Clare y castell mwyaf yng Nghymru – a hwnnw’n ail yn unig i Windsor ym Mhrydain oll. Cyfunwyd waliau, tyrau a phorthdai enfawr ag amddiffynfeydd dŵr helaeth i orchuddio 30 erw i gyd.

Mae hynny deirgwaith cymaint â chadarnle Cymru gyfoes, sef cartref rygbi Cymru, Stadiwm y Principality.
Heddiw, mae Drysfa Gilbert yn gwahodd marchogion mentrus i drechu system amddiffyn unigryw’r castell drwy lywio llwybrau cudd a rhwystrau heriol.

Pan fu farw Llywelyn, trawsnewidiwyd y gaer flaenaf hon yn gartref gwych a chanddo barc hela a llyn gogleddol. Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo ffefryn creulon a barus Edward II, Hugh Despenser, a ailwampiodd y neuadd fawr mewn modd addurniedig.

Erbyn hynny, rhaid bod Caerffili yn ymddangos fel rhyw gastell chwedlonol yn arnofio mewn llyn hudol, effaith a gryfhawyd yn rhyfedd gan bowdwr gwn y Rhyfel Cartref a adawodd tŵr y de-ddwyrain ar ongl ansicr.

A dweud y gwir, mae’n siŵr mai Tŵr Cam Cymru – sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed – yw nodwedd anwylaf y castell.
Cyfleusterau

Croeso i Blant
Darparu ar Gyfer Grwpiau

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
YouTube
Instagram