Skip to the content

Ffôn

01873 850805

Cyfeiriad

Stryd Groes
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 5HD
NP7 5HD

Y dref agosaf

0 milltir o Y Fenni

Mae'r theatr yn eiddo i Gyngor Sir Fynwy ac yn cael ei rheoli ganddo, mae'r theatr yn rhan o adeilad neuadd y dref ac mae'n dyddio'n ôl i 1870. Fe'i hadnewyddwyd yn helaeth yn gynnar yn y 1990au ac mae ganddi theatr gartrefol â llinellau gweld ac acwstig rhagorol, sy'n llwyddo i gyfuno nodweddion hanesyddol a thraddodiadol ag awyrgylch fodern.

Rydym yn falch iawn o’r ffaith bod llawer o brif artistiaid o’r DU a thramor yn ymweld â Theatre Fwrdeistref (gan fynd yn ôl i The Beatles ym 1963…) yn ogystal â rhai o’r cwmnïau newydd mwyaf diddorol sy’n creu theatr a dawns. Nod ein rhaglen yw cynnig rhywbeth at ddant pawb - gyda sioeau i bawb o'r blynyddoedd cyn-ysgol i fyny.

Mae gan y traddodiad perfformio wreiddiau dwfn yn y Fenni ac mae’r dref yn cefnogi llawer o gwmnïau theatr ac operatig amatur sy’n perfformio’n gyson yn Borough Theatre. Mae A4B (‘Acting 4 the Borough’) yn sefydliad ymbarel ar gyfer y cymdeithasau hynaf yn cynnwys AAODS, AAODS Iau, Cwmni Pantomeim y Fenni, Grŵp Theatr y Fenni a Breakthrough Productions – rhai ohonynt wedi eu sefydlu 100 mlynedd yn ôl! Mae’r pwyllgor hefyd yn rhedeg cynllun gwobrau llwyddiannus A4B ac wedi codi £100,000 ar gyfer offer i’r theatr dros y 30 mlynedd diwethaf.
Er bod llawer wedi'i gyflawni, nid yw'r galw cynyddol am ddefnydd o'r theatr o'r sectorau proffesiynol a chymunedol ond yn dangos bod llawer o waith o'n blaenau wrth geisio ymestyn a datblygu'r gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd wedi gwneud BoroughTheatre yn drysor Sir Fynwy

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu i gyflawni ein nodau. Gallwch ymuno â ni fel aelod gwirfoddol o'n tîm blaen tŷ neu dechnegol. Gallwch wneud rhodd tuag at - neu noddi - ein gweithgareddau, a gallwch ein cefnogi trwy ddod â ffrindiau a theulu gyda chi i wylio digwyddiadau yn yr adeilad rhyfeddol a hanesyddol hwn.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i Borough Theatre!

Cyfleusterau

Croeso i Blant

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook
Twitter
Instagram