Skip to the content

Cyfeiriad

Casnewydd
Newport
NP20 1DA

Y dref agosaf

4 milltir o Dinas Casnewydd

Mae Castell Casnewydd ar gau hyd y gellir rhagweld oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Er bod y ddinas fodern wedi’i lyncu bellach i raddau helaeth, cewch syniad o fawredd Castell Casnewydd o hyd o’i weld o’r bont ar draws Afon Wysg. Oddi yma, daw ei dŵr canolog gyda doc dŵr i’r golwg, rhwng dau dŵr pellach sy’n nodi pennau gogleddol a deheuol y gaer.
Yn wreiddiol, amgylchynwyd murlen y castell gan ffos ddofn, a lenwyd â dŵr yn ystod penllanw – un o fanteision allweddol ei safle glan afon. Adeiladwyd y castell yn y 14eg ganrif, gan ddisodli castell tomen a beili cynharach yn agos i’r gadeirlan yn Stow Hill.