Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Ffôn
E-bost
Gwefan
Cyfeiriad
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 8EP
Y dref agosaf
9 milltir o Y Fenni
Ynghyd ag Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn, mae’n un o ‘Dri Chastell Gwent’ a adeiladwyd gan y Normaniaid i reoli rhan allweddol o ffindir trwblus. Cafodd y cadarnle pridd a choed gwreiddiol, a adeiladwyd ar gros mhont (Ffrangeg am ‘fryn mawr’), ei ddisodli’n ddiweddarach â charreg. Cafodd fywyd gweithgar. Yn y 13eg ganrif cafodd ei ailadeiladu gan gynnwys y porthdy a’r tyrau cylchol. Yn sgil ailfodelu ganrif yn ddiweddarach, cafodd Grysmwnt randai yn addas i aelwyd fonheddig, ond erbyn y 15fed ganrif roedd y castell yn ei chanol hi eto, dan warchae yn y gwrthryfel dan arweinydd carismatig y Cymry, Owain Glyndŵr.