Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.
Ffôn
E-bost
Gwefan
Cyfeiriad
Gerddi Dyffryn
Sain Nicholas
Bro Morgannwg
CF5 6FZ
CF5 6FZ
Y dref agosaf
6 milltir o Caerdydd
Treuliwch amser gwerthfawr ym myd natur a chael eich ysbrydoli mewn ffordd hollol newydd trwy ryngweithio â'r gosodiadau celf mawr yn y tiroedd.
Mae'r arddangosfeydd celf amlddisgyblaethol hyn yn "byrth" lle gallwch chi gofleidio byd natur a gweld Dyffryn o bersbectif newydd. Maen nhw’n hollol unigryw ac wedi'u cynllunio a'u hadeiladu'n arbennig ar gyfer Gerddi Dyffryn gan yr artist Alison Neighbour.
Ymwelodd yr artist Edith Adie - a oedd ar waith yn yr 20fed ganrif - â Dyffryn yn y 1920au a pheintio sawl dyfrlliw o'r gerddi – maen nhw wedi bod yn amhrisiadwy i'r gwaith cadwraeth ac adfer sy'n digwydd heddiw. Mae'r lluniau gwreiddiol yng ngofal y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, ond bydd copïau ohonyn nhw i’w gweld o gwmpas y gerddi fel y gallwch chi gymharu'r dirwedd nawr â'r hyn y byddai Edith Adie wedi'i weld a'i gofnodi ganrif yn ôl.
Byddwn ni hefyd yn annog ymwelwyr i ymateb i'r gwaith celf trwy greu rhai eu hunain. Gallwch fenthyg Pecyn Creadigol o'r Ganolfan Groeso wrth gyrraedd - mae'n cynnwys papur a phaent dyfrlliw yn ogystal â chyflenwadau crefft eraill i'ch helpu i gofnodi’r gerddi yn eich ffordd unigryw eich hun. Os oes gennych chi eich deunyddiau eich hun, mae croeso i chi ddod â nhw gyda chi – rydyn ni’n croesawu îsls a chadeiriau gwersylla!
Mae'r darnau celf hyn yn dathlu byd natur ac yn datgelu stori Dyffryn fel gardd-warchodfa natur. Maen nhw’n canolbwyntio ar gysylltedd, garddwriaeth ac annog ymwelwyr i gofleidio ac ymateb i'r byd naturiol o'u cwmpas.