Taith Awgrymedig

Casnewydd a Chaerllion

Ewch ar daith o amgylch Casnewydd. Ymwelwch â phontydd dyfeisgar, olion Rhufeinig a phlastai mawreddog, a mwynhewch werddon o dawelwch mewn gwarchodfa natur dawel.

Casnewydd a Chaerllion

Arosfan 1Gweddillion a Amgueddfa Rhufeinig Caerllion Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Genedlaethol yn gartref i arddangosfa wych o arteffactau a ddarganfuwyd yn y rhanbarth, yn ogystal ag ystafelloedd arddangos ac ailadeiladu llety'r llengfilwyr. Tra bod y Baddonau Rhufeinig a'r Amffitheatr yn rhoi cipolwg ar fywyd y Milwyr Rhufeinig.

Arosfan 2 – Darganfuwyd Llong Ganoloesol Casnewydd o dan lannau mwdlyd Afon Wysg yn 2002 a chafodd ei chloddio darn wrth ddarn, mae'r llong yn y broses o gael ei chadw a'i hailadeiladu. Mae croeso i ymwelwyr weld y gwaith a dysgu stori'r llong.

Arosfan 3 – Adeiladwyd Pont Gludo Casnewydd i ganiatáu i longau tal barhau i wneud eu ffordd i fyny Afon Wysg. Mae canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei hadeiladu a mecanwaith y bont yn cael ei atgyweirio fel y byddwch yn gallu mynd ar daith ar y gondola crog neu gerdded ar draws y gantri lefel uchel yn 2027.

Arosfan 4Tŷ a Pharc Tredegar oedd cartref hynafol teulu Morgan am dros 500 mlynedd ac mae bellach yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall ymwelwyr glywed popeth am hanes y tŷ a'r perchnogion ecsentrig neu fynd am dro hamddenol trwy barcdir hardd.

Arosfan 5 – Gorffennwch y diwrnod yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ar lannau Aber Hafren – hafan i fywyd gwyllt. Canolfan Ymwelwyr yr RSPB yw’r lle delfrydol i ddarganfod beth allech chi ei weld.

Map

Casnewydd a Chaerllion

Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.

Archwiliwch Gaerllion gyfan gan gynnwys y Baddonau Rhufeinig a'r Amffitheatr .

Diwrnod 1 NandC Stop 1

Darganfuwyd Llong Ganoloesol Casnewydd o dan lannau mwdlyd Afon Wysg yn 2002 ac, ar ôl ei chloddio darn wrth ddarn, mae'r llong yn cael ei chadw a'i hailadeiladu. Mae croeso i ymwelwyr weld y gwaith a dysgu hanes y llong.

Diwrnod 1 NandC Stop 2

Pont Gludo Casnewydd - gyda gwaith yn mynd rhagddo efallai na fyddwch yn gallu mynd yn agos at y strwythur, ond mae'n bosibl stopio a mwynhau'r olygfa.

Diwrnod 1 NandC Stop 3

Tŷ Tredegar oedd cartref hynafol teulu Morgan am dros 500 mlynedd ac mae bellach yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall ymwelwyr glywed popeth am hanes y tŷ a'i berchnogion ecsentrig neu fynd am dro hamddenol trwy barcdir hardd.

Diwrnod 1 NandC Stop 4

Gorffennwch y diwrnod yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ar lannau Aber Hafren - hafan i fywyd gwyllt. Canolfan Ymwelwyr yr RSPB yw'r lle delfrydol i ddarganfod beth allech chi ei weld.

Diwrnod 1 NandC Stop 5
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.
Ni chanfuwyd unrhyw eitemau.

Mwy o Deithlenni

Anturiaethau Grŵp

Croeso i Croeso '25 – dathliad o Gymru sy'n gwahodd eich grŵp i deimlo hud, cynhesrwydd a rhyfeddod rhai o'n lleoedd mwyaf eiconig. O gestyll i arfordiroedd, teithiau bwyd i lwybrau mynydd, mae ein fideos newydd yn arddangos detholiad o'r profiadau grŵp gorau sydd gan Dde Cymru i'w cynnig.

Un diwrnod yn unig yng Nghaerdydd

Profiwch rai o’r pethau gorau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig - amgueddfeydd, castell a lleoliadau perfformio eiconig.

Diwrnod o gwmpas Tredegar, Glynebwy a Chwe Chloch

Ardal sy'n falch o'i threftadaeth, gweler cerflun enfawr y Gwarcheidwad, ymwelwch â pharcdir hardd ac adeiladau hanesyddol cyn mynd i'r siopau.