Disgrifiad
Moethusrwydd a thywallt gwaed bywyd mewn caer Rufeinig
Roedd bywyd yn galed i lengfilwr Rhufeinig yng Nghymru yn y ganrif gyntaf. Pan nad oedd wedi'i gloi yn ei farics nac yn cael ei gyfarth gan ganwriad, roedd allan yn peryglu ei fywyd mewn ysgarmesoedd gyda'r Brythoniaid hynafol.
Ond yma yn Isca, un o ddim ond tair caer lengfilwyr parhaol ym Mhrydain, roedd yna iawndal. Gallai bob amser dreulio amser gyda'i ffrindiau ym baddonau'r gaer – neu fynd am dro i'r amffitheatr i wylio'r gladiatoriaid.
Y tu mewn i adeilad modern dan do yng Nghaerllion heddiw, gallwch chi barhau i archwilio olion y natatio enfawr, neu bwll nofio awyr agored, a oedd unwaith yn dal mwy nag 80,000 galwyn o ddŵr. Diolch i ryfeddodau taflunio ffilm, fe welwch chi filwr Rhufeinig yn dal i blymio i'r dyfnderoedd heddiw.
Gallwch hefyd weld yr ystafelloedd cyfyng lle roedd y dynion yn cysgu ac yn storio eu harfau – yr unig farics llengfilwyr Rhufeinig sydd i’w gweld o hyd yn Ewrop.
A gallwch gerdded trwy'r fynedfa ogleddol fawr i mewn i'r amffitheatr Rufeinig mwyaf cyflawn ym Mhrydain a dychmygu sŵn 6,000 o bobl yn erfyn am waed.




