Disgrifiad
Agorwyd y Ganolfan Adnoddau Amgylcheddol (ERC) yn swyddogol gan Iolo Williams a Jane Davidson AC ar 21 Mai 2010 a dyma'r adeilad cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o ailddatblygu safle'r hen waith dur yng Nglyn Ebwy. Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar safle ecolegol gyfoethog wrth ymyl pyllau oeri'r Tŷ Pwmp, sydd wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt ers cau'r gwaith dur.
O ganlyniad, mae yna gyfoeth o fywyd gwyllt eisoes i ymwelwyr ei ddarganfod, fel madfallod dŵr, gweision neidr a mursennod, tegeirianau ac iâr ddŵr breswyl (eithaf anodd ei gweld). Bydd GWT yn cynnal gweithdai ar gyfer ysgolion a darparwyr dysgu eraill, yn ogystal â rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau, cyrsiau a seminarau ar ystod o bynciau a materion sy'n ymwneud â bywyd gwyllt a'r amgylchedd.
