Disgrifiad
Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol – yn dal i sefyll mewn gogoniant di-do ar lannau Afon Gwy bron i 500 mlynedd ers ei gwymp trasig o ras.
Fe'i sefydlwyd ym 1131 gan fynachod Sistersaidd, a oedd yn hapus i fodloni ag adeiladau pren i ddechrau. Roedd yr Abad Henry, lleidr diwygiedig, yn fwy adnabyddus am ei arfer o wylo wrth yr allor nag am ei uchelgeisiau pensaernïol.
Daeth eglwys garreg syml a chloestrau yn ddiweddarach. Ond yna, diolch i nawdd arglwyddi cyfoethog y Mers, dechreuodd y mynachod mewn gwisgoedd gwyn feddwl yn fwy.
Ym 1269 dechreuon nhw adeiladu eglwys abaty newydd ac ni stopion nhw nes iddyn nhw greu un o gampweithiau pensaernïaeth Gothig Prydain. Mae'r ffrynt gorllewinol mawreddog gyda'i ffenestr saith-lansed a bwâu uchel y corff eglwys yn dal i syfrdanu'r anadl.
Roedd y mynachod mor ddiolchgar i'w noddwr pwerus Roger Bigod nes eu bod yn dal i roi elusen ar ei ran ym 1535. Ond erbyn hynny roedd Diwygiad Protestannaidd y Brenin Harri VIII wedi hen ddechrau.
Flwyddyn yn ddiweddarach yn unig ildiodd Tyndyrn yn rownd gyntaf diddymiad y mynachlogydd – a dechreuodd yr abaty mawr droi’n adfail mawreddog yn araf.





