Disgrifiad
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl... Mae'r parc teuluol hwn wedi'i leoli ym Mannau Brycheiniog gyda mynediad oddi ar y safle ar gyfer teithiau cerdded mynyddoedd, coedwigoedd a chronfeydd dŵr.
Perffaith ar gyfer teuluoedd, cyplau, cerddwyr a beicwyr sydd naill ai eisiau ymlacio, mwynhau neu ddarganfod golygfeydd prydferth cefn gwlad. Hefyd yn agos at raeadrau godidog a chyfoeth hanes trefi cyfagos Aberhonddu a Merthyr.
Croeso i gŵn. Yn falch o ddarparu llety i fyfyrwyr ar eu halldeithiau ar gyfer Gwobrau Dug Caeredin. Llecyn y noson i 2 berson o £16 y noson.
Nid yw archebu ymlaen llaw bob amser yn angenrheidiol ond efallai y byddai'n ddoeth ar adegau prysur, yn enwedig Gwyliau Banc


