Skip to the content

Ffôn

01685 379111

Cyfeiriad

Lodge Nant Ddu
Cwm Taf
Merthyr Tudful
CF48 2HY

Y dref agosaf

7 milltir o Merthyr Tudful

Gwesty gwledig moethus 3 seren sy’n swatio yng nghalon Bannau Brycheiniog. Wedi ei leoli’n berffaith fel canolfan i fwynhau prydferthwch yr ardal leol neu ymlacio a gwneud eich hun yn gartrefol yn ein hystafelloedd gwely i westeion. Trîtiwch eich hun i benwythnos pampro mewn sba yng Nghymru, gan brofi heddwch ein lleoliad godidog a mwynhau’r bwyd lleol mwyaf ffres yn ein bistro a bar prysur. Mae Porthdy Nant Ddu yn anffurfiol ac eto’n encil proffesiynol ble y gallwch ymlacio, dadweindio a mwynhau’r gorau sydd gan Dde Cymru i’w gynnig.

Preswylfa’r Perchennog

Gyda’i 4 ystafell wely, 2 ystafell ymolchi, a lle i hyd at 12 o bobl, mae Preswylfa’r Perchennog yn dŷ teulu helaeth a modern, gan ei wneud y lle perffaith i fforio’r wlad fendigedig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’r eiddo’n cynnig digon o le i barcio ac mae’r ardd fawr yn wych i blant a gallwch giniawa yn yr awyr agored mewn tywydd braf. Gall gwesteion hefyd ddefnyddio Gwesty a Sba Nant Ddu Lodge a leolir ar dir yr eiddo. Mae ynddo ystafell fwyta helaeth i 12 o bobl, gyda drysau patio dwbl, lolfa i’r teulu gyda theledu sgrin wastad 62” HD, drysau patio dwbl, dodrefn a bwrdd yn yr awyr agored. Mae teledu sgrin wastad 42” HD ym mhob ystafell wely.

Mae’r holl gyfleusterau modern sydd eu hangen arnoch i’ch gwyliau ar gael yn y gegin gan gynnwys hob nwy a hob trydan, peiriannau golchi llestri a dillad a pheiriant sychu dillad, 2 oergell / rhewgell, peiriant coffi, tegell a thostiwr. Mae gwres canolog drwy’r tŷ a modd ei addasu i’ch dibenion yn y tŷ.

Cyfleusterau
  • Cyfeillgar i Gwn
  • Wifi
  • Parcio
  • Hygrych
  • Cerdded
  • Beicwyr
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Instagram

Tripadvisor