Skip to the content

Dewch i ddarganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Cymoedd y De, sy'n rhychwantu'r ardal o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Ferthyr, yn gyforiog o fannau gwyrdd sy'n llawn cynefinoedd naturiol a digonedd o bethau i'w gwneud a'u gweld. Gelwir yr ardal hon, sy'n ffynnu unwaith yn rhagor, weithiau yn Faes Glo De Cymru oherwydd ei hanes. Mae yma, ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, olygfeydd godidog, diwylliant cyfoethog a bywyd naturiol hudolus.

Mae Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sy'n fynedfeydd naturiol i dirwedd ehangach y Cymoedd, yn rhychwantu ardal eang ac maent yn cynnig profiadau a gweithgareddau amrywiol i bawb. O lwybrau beicio mynydd a llwybrau ceffylau i nofio mewn dŵr oer, cerdded neu fwynhau tamaid o ginio wedi eich amgylchynu gan fyd natur, mae llawer o bethau i'w mwynhau ym mhob un o'r Pyrth Darganfod.

Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon, Blaenafon

Mae Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon yn tystio i lafur caled glowyr a gweithwyr haearn y gorffennol. Cewch weld arwyddion o weithfeydd haearn a glo Cymru ar draws y safle 33 cilomedr sgwâr hwn. Gan hynny, rydych yn siŵr o gael diwrnod allan gwerth chweil yma oherwydd yr atyniadau, y digwyddiadau a'r gweithgareddau sydd ar gael. Ymhlith y prif atyniadau mae Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit, Gweithfeydd Haearn Blaenafon, Canolfan Dreftadaeth y Byd a Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon. Mae'r Porth Darganfod yn rhoi gwir flas ichi ar hanes Cymoedd y De, a hynny mewn amgylchfyd y mae cerddwyr, beicwyr a theuluoedd fel ei gilydd yn heidio yma i'w fwynhau.

Parc Gwledig Bryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr

Dewch i Barc Gwledig Bryngarw, sydd wedi'i leoli mewn dros 100 o erwau o barcdir, i ddarganfod coetiroedd, gwlypdiroedd, dolydd a gerddi ffurfiol, ynghyd ag amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau i ddifyrru'r teulu cyfan. Ymhlith y gweithgareddau y gallwch eu mwynhau yma mae beicio ar lan Afon Garw, cymryd rhan mewn sesiynau ymdrochi mewn pyllau â Cheidwaid y Parc neu rasio i lawr y llithren anhygoel yn y lle chwarae. Cewch fwynhau bwyd a diod blasus yng nghaffi Bryngarw hefyd. Dewch i Barc Gwledig Bryngarw i weld treftadaeth amgylcheddol a diwylliannol ar ei gorau. Mae'r Parc hefyd wedi ennill statws Gwobr Baner Werdd yn ogystal ag Achrediad Safle Treftadaeth Werdd.

Coedwig Cwmcarn, Cwmcarn

Mae Coedwig Cwmcarn yn encil bach hyfryd sy'n agos at garreg eich drws, ond gallwch daeru eich bod filltiroedd ymhell o bobman pan ddowch chi yma! Mae gan Goedwig Cwmcarn enw am fod yn baradwys i feicwyr mynydd brwd oherwydd y llwybrau niferus, y cyfleusterau parcio gwych a'r siop atgyweirio beiciau sydd ar y safle! Os yw'n well gennych gerdded, cewch fwynhau digon o lwybrau sy'n amrywio o deithiau cerdded hamddenol i anturiaethau hirach ar ddwy droed. I'r rhai sy'n chwilio am hwyl, gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr ac mae maes chwarae antur yma hefyd i'r chwilotwyr iau. Gallwch fwynhau brecwast, byrbrydau a phrydau bwyd blasus yng Nghaffi'r Gigfran, a gallwch hyd yn oed aros dros nos yn un o'r unedau glampio neu'r cabanau sy'n cynnig golygfeydd godidog.

Parc a Chastell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Gall y teulu cyfan fwynhau diwrnod hyfryd allan ym mharcdir Parc Cyfarthfa, sy'n rhychwantu 160 o erwau. Mae llawer i'w wneud yma, a chewch fwynhau golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn a thuag at Fannau Brycheiniog. Ymwelwch â Chaffi Canolfan Cyfarthfa, dewch i fwynhau'r Pad Sblashio a'r Parth Chwarae â'r plantos, ewch ar daith ar y rheilffordd fechan, mwynhewch gêm o denis neu ewch am dro hamddenol o gwmpas Llwybr Natur Crawshay. Os oes gennych chi ddigon o amser, mae'n siŵr mai ymweld â bwthyn y gweithwyr haearn, sydd hefyd yn adnabyddus i nifer fel man geni'r cyfansoddwr o Gymro, Joseph Parry, fydd uchafbwynt eich diwrnod.

Parc Penallta, Ystrad Mynach

Mae digon o berlau cudd i'w darganfod ym Mharc Penallta. Cerddwch drwy'r twnnel helygen, gwyliwch acrobateg aer gwas y neidr dros y pwll neu ewch i ddarganfod y Cawr Cwsg. Cofiwch roi tro am Swltan, y Ferlen Pwll Glo, sy'n un o nodweddion eiconig y parc ac yn un o gloddweithiau ffigurol mwyaf y wlad. Mae milltiroedd o lwybrau i'w dilyn yma, ac maen nhw'n amrywio mewn hyd. Dechreuwch o'r prif faes parcio a mwynhewch eich anturiaeth!

Parc Coffa Ynys Angharad a Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd

Mae Parc Ynysangharad a'r Lido Cenedlaethol, yr unig o'i fath yng Nghymru, yn bwll nofio awyr agored ac yn barc chwarae antur sydd wedi'i seilio ar thema ddiwydiannol. Cewch ymgolli mewn gweithgareddau amrywiol yn ystod eich ymweliad ag Ynysangharad, o fowls, tenis a chriced i golff ar droed a llwybrau rhedeg drwy'r parc. Heb anghofio wrth gwrs am y lido, a adnewyddwyd yn ddiweddar. Mae yma bellach gawodydd awyr agored a chawodydd dan do, cyfleusterau newid wedi'u gwresogi a thri phwll nofio wedi'u gwresogi. Cofiwch hefyd am y Ganolfan Ymwelwyr, lle ceir byrddau treftadaeth a gemau a phosau rhyngweithiol i’w mwynhau, felly mae digon yma i ddifyrru’r teulu cyfan.

Castell Caerffili, Caerffili

Castell Caerffili yw castell mwyaf Cymru ac, yn hyn o beth, mae'n dra enwog. Gall haneswyr ifanc fwynhau diwrnod perffaith yma, ac mae'r castell wedi'i drwytho mewn hanes. Dewch i darganfod y tyrau, y ddrysfa, ffau'r ddraig a'r Neuadd Fawr. Codwyd Castell Caerffili ym 1271, ac mae wedi goroesi ymosodiadau lu gan y Cymry, ond mae un ymosodiad wedi gadael craith go nodedig; sef y tŵr sy'n gwyro, a achoswyd gan Bengryniaid Oliver Cromwell ym 1648. Rydych yn siŵr o sylwi arno am ei fod ar ogwydd o 3 metr!

Parc Bryn Bach, Tredegar

Os ydych yn ymweld ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, mae cymaint i'w wneud ym Mharc Bryn Bach. Lleolir y parc mewn 340 o erwau o borfeydd a choetiroedd eidylig. Mae llyn canolog hyfryd yma hefyd, a chewch gymryd rhan mewn saethyddiaeth, sesiynau byw yn y gwyllt, ogofa, dringo, golff-droed, caiacio, nofio dŵr agored a llawer, llawer mwy. Os mai cerdded sy'n mynd â'ch bryd, mae llawer o lwybrau cerdded yma sy'n amrywio mewn hyd ac maent yn addas i bobl o bob gallu. Mae'r Ganolfan Ymwelwyr sydd ar y safle a'r caffi ar lan y llyn yn gyfeillgar i gŵn, felly gall eich cyfaill ffyddlon ar bedair coes ymuno yn eich anturiaethau!

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn lle perffaith i deuluoedd. Mae'r parc yn rhychwantu dros 500 o erwau, a cheir yma lwybrau cerdded sydd wedi'u hamgylchynu gan goetiroedd, porfeydd a gweundir; ac mae'r lle yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt a byd natur. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael yma mae ymdrochi mewn nentydd, teithiau cerdded tywys a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i bawb eu mwynhau. Os ydych yn chwilio am antur, gallwch fwynhau gêm saethu laser, canŵio, caiacio a mynd ar gefn beic mynydd ar hyd y gwahanol lwybrau beicio sy'n addas i bobl o bob gallu. Codwch rywbeth cyflym i'w fwyta yng nghaffi'r Black Rock a holwch ynglŷn â'r safle gwersylla a charafanio os ydych am wneud noson neu ddwy ohoni.

Gwarchodfa Natur Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Gronfa Natur 300 o erwau a Chanolfan Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Natur ym Mharc Slip rywbeth at ddant pawb! Mae'r gronfa natur yn gartref i dros 1,000 o rywogaethau o fywyd gwyllt, a gallwch fwynhau dros 10km o draciau cerdded yma hefyd. Mae'r 4 llwybr cerdded GWYLLT yn siŵr o'ch arwain at rannau godidog o'r gronfa natur. I'r ymwelwyr mwy egnïol yn ein plith, mae llwybrau beicio yma sy'n rhydd o draffig, yn ogystal â llwybr ceffylau sy'n rhedeg drwy'r safle. Cofiwch alw yng nghaffi'r Ganolfan Ymwelwyr i fwynhau lluniaeth blasus. Mae toiledau, cysgodfa i feiciau â tho gwyrdd a man gwefru ceir hefyd ar gael yma.

Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Cross Hands

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn rhychwantu 180 o erwau ac mae golygfeydd godidog i’w mwynhau yma. Mae hanes y lle yn dyddio i ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r Porth Darganfod hwn yn arbennig o bwysig i ymwelwyr oherwydd y llyn. Gofalai milwr hanesyddol, Owain Lawgoch, dros y ffynnon ar y Mynydd Mawr. Bob dydd, deuai Owain i'r ffynnon i godi dŵr iddo ef ei hun ac i'w geffyl. Ar ôl iddo orffen, rhoddai'r llechfaen yn ôl dros geg y ffynnon a ddaliai'r dŵr yn ôl. Serch hynny, anghofiodd wneud hynny un tro a pharhaodd y dŵr i lifo o'r ffynnon. O ganlyniad i hyn, crëwyd y llyn. Ers hynny, mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn dwyn enw Owain oherwydd yr hyn a wnaeth. Mae'r gair 'Llech' yn cyfeirio at y llechfaen a ddaliai'r dŵr yn ôl. Yn ogystal â'r llyn enwog, mae gan y Porth Darganfod hwn rwydwaith o lwybrau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau i bobl eu mwynhau, ynghyd â chanolfan ymwelwyr wrth ymyl y llyn a digonedd o gynefinoedd bywyd gwyllt.

Parc Coedwig Afan, Port Talbot

Mae Parc Coedwig Afan ym Mhort Talbot, sydd â digonedd o lwybrau beicio cyffrous i bobl o bob gallu, yn gyrchfan ddelfrydol i feicwyr brwd. Os ydych yn chwilio am antur ar ddwy droed, dilynwch y llwybrau cerdded sydd â chyfeirbwyntiau a fydd yn eich arwain at y tir coediog sy'n amgylchynu'r parc. Mae'r ganolfan ymwelwyr, sy'n gartref i Ystafell De Cedar, yn lle perffaith i gychwyn a gorffen eich diwrnod allan. Dewch yma i fwynhau danteithion cartref bendigedig. Mae cyfleusterau parcio (codir ffi) a thoiledau cyhoeddus ar gael ar y safle.