Skip to the content

Merthyr Tudful 360

Screenshot from Merthyr Tydfil 360

Mae Merthyr Tudful ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrch genedlaethol i hybu twristiaeth a hynny ar y cyd â lansiad taith rithiol y Cyngor o’n tirwedd anhygoel.  

Merthyr Rhithiol – Taith 360° sydd yn tywys ymwelwyr i brif atyniadau’r Fwrdeistref Sirol gan nodi mannau o ddiddordeb sydd ag arwyddocâd diwylliannol. Canolbwyntir ar Daith Taf a’i chysylltiadau â chyfleusterau, atyniadau a busnesau.

Dynodwyd eleni’n flwyddyn Llwybrau/ Wales by Trails gan Croeso Cymru, sef y ddiweddaraf mewn ‘cyfres o flynyddoedd thematig’ – yn dilyn Antur, Chwedl, Môr, Darganfod a’r Awyr Agored.

Mae ymgyrch ‘Llwybrau’ i’w gweld ar y teledu, ledled y DU ac yn cael ei chefnogi gan hysbysebu digidol a deunyddiau marchnata mewn prif orsafoedd tanddaearol yn Llundain. Mae’n annog ymwelwyr a phreswylwyr i ‘guradu eu teithiau epig eu hunain’ yng Nghymru yn ystod 2023.  

Fel rhan o bartneriaeth y Cyngor â phrosiect rhyngwladol, Trail Gazers, mae’r Tîm Rheoli Cyrchfan yn Ymweld â Merthyr / Visit Merthyr wedi comisiynu Taith Rithiol Merthyr.  

Cafodd Trail Gazers, Ardal yr Iwerydd ei hariannu gan yr UE ac mae’n annog pobl yn y DU, Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc ‘oddi ar y llwybrau ac i’r cymunedau lleol gwledig i drochi mewn profiadau diwylliannol, coginio a phrofiadau bywyd newydd.’

Cafodd ‘Canllaw Cyflym’ ei greu er mwyn eich cynorthwyo i lywio Merthyr Rhithiol 360°. Dyma’r ddolen: www.visitmerthyr.co.uk/media/300441/vr-merthyr-introducing-ad-wlsh-v2-fin-960-853px-2.mp4

Yn ogystal, mae cyfres o 12 fideo wedi’u creu ar gyfer pob atyniad a chyrchfan o ddiddordeb a hynny er mwyn hyrwyddo’r daith drwy’n hardal arbennig. Gellir dod o hyd i’r gyntaf yn y gyfres sydd yn hyrwyddo Taith Taf yma: www.visitmerthyr.co.uk/media/300443/wlsh-virtual-merthyr-360-tour-taff-trail-video.mp4

Mae Ymweld â Merthyr / Visit Merthyr yn gobeithio y bydd yr ychwanegiad newydd hwn a fydd ar gael ar ein gwefan yn www.visitmerthyr.co.uk.cy yn gwella’r profiad i ymwelwyr ac yn gymorth iddynt gynllunio’u hanturiaethau yn yr ardal, lawer yn haws.