Skip to the content

Tywyswyr Teithiau

Gwnewch yn siwˆ r y cewch y mwyaf o’ch ymweliad â’r rhanbarth trwy drefnu gwasanaethau tywysydd teithiau. Aelodau o Gymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru yw’r unig dywyswyr a gydnabyddir yn swyddogol fel rhai a all dywys yng Nghymru. Gall ddarparu Tywyswyr Bathodyn Glas hyfforddedig, proffesiynol a phrofiadol, a fydd yn helpu i ddod â’ch taith yn fyw.

Mae dwsinau o dywyswyr, pob un â’i arbenigeddau, diddordebau a
sgiliau iaith ei hun. Gall Tywyswyr Bathodyn Glas fynd â chi i bob cwr o’r rhanbarth, ac mae Tywyswyr Bathodyn Gwyrdd yn cynnig gwybodaeth fwy arbenigol a lleol.

I ddod o hyd i dywysydd fydd yn addas at eich anghenion, ewch i
www.walesbestguides.com

Cenhadon y Fro

I gael gwybodaeth ymarferol am beth i’w weld a ble i fynd, cysylltwch ag un o’n Cenhadon y Fro. Mae 50 gwirfoddolwr o’r fath sy’n awyddus i rannu eu brwdfrydedd am yr ardal leol a’u gwybodaeth arbenigol.

Gellir cysylltu â nhw trwy e-bost neu ffôn cyn i chi ymweld â’r Fro, ac mae rhai ohonynt ar gael i’ch cyfarch yn ystod eich taith.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Cenhadon: ewch i:

www.visitthevale.com
E-bost tourism@valeofglamorgan.gov.uk
Neu ffoniwch +44 (0)1446 704867